Mae trefnwyr Ras Ffordd 10k Nick Beer, ras boblogaidd iawn a gynhelir yn flynyddol yn Llandudno, wedi derbyn trwyddedau i gynnal y ras a'r ras hwyl yr haf hwn. Daw'r newyddion hwn wedi i Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda chais i roi caniatâd arbennig i'r digwyddiad, gan ganiatáu iddo fynd yn ei flaen ar y dyddiad newydd sef 18 Gorffennaf, gyda nifer sylweddol o gystadleuwyr.
Wrth sôn am y newyddion y gellir cynnal y ras flynyddol wedi'r cwbl, dywedodd Janet:
“Mae wedi bod yn bleser lobïo Llywodraeth Cymru i edrych yn ffafriol ar y gystadleuaeth fawr hon yn ein calendr lleol.
“Mae gan y digwyddiad hanesyddol hwn draddodiad o gynnig cyfle allweddol i athletwyr amatur a medrus i roi eu hyfforddiant ar brawf.
“Gan fod y pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gofod awyr agored, iechyd corfforol a meddyliol, mae'r ras yn golygu y bydd llesiant yn ennill y dydd.
“Mae'r sêl bendith yn fuddugoliaeth bendant i economi'r dref a Hosbis Dewi Sant hefyd.
“Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Ian Turner a Chlwb Rhedwyr Ffordd Gogledd Cymru am ddal ati a gweithio mor ddyfal i sicrhau bod y ras yn digwydd!”
DIWEDD
Nodiadau:
- Llandudno Nick Beer 10k
Ffotograff: gan sporlab ar Unsplash