Mae Janet Finch-Saunders AS, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi canmol ymroddiad a gwaith caled rhanddeiliaid a gwirfoddolwyr lleol wrth gynnal arddangosiad tân gwyllt blynyddol Llandudno ar draeth y Gogledd. Cynhaliwyd yr arddangosiad ar ddydd Sul 7 Tachwedd 2021, ac mae’r arddangosiad traeth 20 munud hwn yn dibynnu ar y llanw. Roedd angen tuag awr a hanner o waith paratoi ymlaen llaw i osod yr arddangosiad yn ddiogel.
Yn rhoi sylwadau ar ôl y digwyddiad, dywedodd Janet:
“Rwy’n rhannu cyffro’r preswylwyr lleol ac ymwelwyr o weld yr arddangosiad tân gwyllt ysblennydd yn ôl ar draeth y Gogledd yn Llandudno. Mae llwyddiant y digwyddiad traeth heb ei ail hwn yn hwb enfawr i’r economi leol wrth i ni ddal ati i adfer ar ôl Covid-19, ac yn pwysleisio pam mai Llandudno yw Brenhines cyrchfannau Cymru.
“Ar ôl gorfod canslo arddangosiad 2020 am resymau amlwg, roedd llawer o ddisgwyl am y digwyddiad teuluol hwn ac ar ôl tywydd ffafriol ac agoriad yn amseroedd y llanw, roedd hi’n braf iawn gweld y rocedi anhygoel hyn yn rhoi fflach o liw dros awyr Llandudno.
“Ar ran yr etholaeth, hoffwn dalu teyrnged i ymroddiad Cyngor Tref Llandudno a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, i adfer y digwyddiad blynyddol hanfodol hwn ar ôl saib bach. Rwyf hefyd am ddiolch i’r rhai ar Bier Llandudno am fod mor hael â darparu’r peiriannau a’r gweithwyr oedd eu hangen i gynnal digwyddiad o’r fath, ynghyd â Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Conwy am helpu i gau’r ffordd yn ôl yr angen.
“Heb waith caled y gweithwyr a’r gwirfoddolwyr, ni fyddai cynnal digwyddiadau fel hyn yn ymarferol. Diolch o galon i chi gyd am danio’r cynlluniau hyn a darparu’r fath sioe.”
DIWEDD
Ffoto: gan Jingda Chen ar Unsplash