Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd Aberconwy – wedi siarad am ei phryder dros y rhaniad digidol cynyddol yng Nghymru, wrth i arolwg newydd ddatgelu bod dros 50% o ymatebwyr o ardaloedd gwledig yn teimlo nad oedd eu cysylltiad rhyngrwyd yn gyflym nac yn ddibynadwy.
Nawr, mae Janet, sy’n gweithio gyda’r gymuned ar nifer cynyddol o achosion band eang, wedi cyflwyno Cwestiwn Ysgrifenedig ffurfiol i’r Gweinidog Newid Hinsawdd i sicrhau bod camau yn cael eu cymryd i gefnogi cyflwyno rhwydwaith ffeibr llawn yn gyflym.
Gan roi ei sylwadau ar ganfyddiadau’r arolwg, dywedodd Janet:
“Mae’r ffaith fod 66% o ymatebwyr yr arolwg yn nodi eu bod wedi’u heffeithio gan fand eang gwael yn dangos bod y rhaniad digidol yn parhau i gael effaith barhaus a sylweddol ar lwyddiant a lles ein cymunedau gwledig.
“Wrth weithio gyda’r gymuned ar y mater hwn, rydw i wedi clywed straeon brawychus am fusnesau yn cael trafferth gwneud eu gwaith ac am bobl ifanc yn methu gwneud eu gwaith cartref. Yn yr oes sydd ohoni, dylem fod yn gweithio i sicrhau’r un chwarae teg rhwng ein canolfannau gwledig a threfol.
“Gydag adroddiad Openreach diweddar yn tynnu sylw at yr effaith ysgytwol y byddai ffeibr llawn yn ei chael ar ranbarthau amrywiol y DU, rwyf bellach wedi gofyn i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am gysylltedd digidol egluro pa gamau brys a fydd yn cael eu cymryd i gefnogi cyflwyno band eang fel hyn yn llawer cynt ledled Cymru.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Cynhaliwyd yr arolwg gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched - Cymru, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru a CFfI Cymru.
- I ddarllen yr adroddiad a gomisiynwyd gan Openreach, cliciwch yma.
- Gofynnodd Cwestiwn Ysgrifenedig Janet i Julie James AS (y Gweinidog Newid Hinsawdd): “ Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan Gymru rwydwaith ffibr llawn cynhwysfawr, ymhellach i'r manteision a amlygwyd mewn adroddiad diweddar a gomisiynwyd gan Openreach?”
Ffoto: gan Compare Fibre ar Unsplash