Ar ôl cynnal cyfarfod safle gyda swyddogion Dŵr Cymru ynghylch y llifogydd a brofwyd gan breswylwyr ar Ffordd yr Orsaf yn Neganwy, mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi sicrhau cadarnhad y bydd adolygiad yn cael ei gynnal i asesu’r posibilrwydd o gynyddu’r llif o’r pwmp storm/gorlif lleol.
Bydd yr asesiad hwn hefyd yn gwirio a oes unrhyw ddŵr ffo arwyneb o groesffordd All Saints Avenue a Lôn Vardre. Mae Dŵr Cymru hefyd wedi cytuno i weithredu falf dim dychwelyd yn un o’r gwlis. Daw hyn ar ôl i’r heol ddioddef llifogydd eto ar 29 Hydref yn sgil gollyngiad honedig o’r rhwydwaith carthffosydd. Yn broblem gyson, mae’r ffordd wedi profi ambell i achos o lifogydd gydol 2019 a 2020.
Mewn diweddariad cadarnhaol arall, ar ôl i sylwadau ffurfiol gael eu rhoi i swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, bydd asesiad yn cael ei gynnal ar y lleoliad sy’n dioddef llifogydd yn gyson, ac efallai ystyried addasu system ddraenio i ddarparu gwlis ychwanegol a gollyngfa fwy.
Wrth roi sylwadau ar y datblygiadau, dywedodd Janet:
“O ystyried yr holl achosion o lifogydd ar Ffordd yr Orsaf, sydd wedi bod yn digwydd ers 1994 yn ôl pob sôn, rwyf wedi bod yn falch o gael cydweithio gyda phreswylwyr lleol i ddal ati i ymgyrchu dros gamau cadarnhaol a rhagweithiol a fydd yn helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn.
“Gallai’r digwyddiadau llifogydd hyn fod yn beryglus i breswylwyr lleol a defnyddwyr ffyrdd yn yr ardal. Gyda stormydd erchyll yn fwy tebygol oherwydd newid hinsawdd, mae’n hollbwysig ein bod y gweithredu i fynd i’r afael â’r pryder hwn.
“O ganlyniad uniongyrchol i ymyriadau diweddar ac ymweliad safle, rwy’n falch o weld y bydd rhanddeiliaid nawr yn ceisio asesu mesurau amrywiol i helpu i liniaru llif dŵr yn yr ardal. Rwy’n gobeithio y bydd yr asesiadau hyn yn arwain ar gamau wedi’u hariannu, ac felly byddaf yn parhau i ymgyrchu dros ateb fel hyn.”
DIWEDD
Ffoto: Janet Finch-Saunders AS yn ystod cyfarfod gyda Martin Williams, Rheolwr carthffosiaeth Dŵr Cymru, Catrin Jones, Rheolwr Rhwydwaith a Victoria Collier, Rheolwr Dalgylch.