Yn dilyn gollyngiadau dŵr am dair wythnos yn Ffordd Gilfach, Penmaenmawr, mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi bod yn falch o weithio gyda Dŵr Cymru i ddatrys y broblem mewn 24 awr.
Ar ôl i breswylwyr Penmaenmawr gysylltu â mi'r wythnos hon yn gofyn am sicrwydd gan Dŵr Cymru y byddai’r broblem yn cael ei datrys, ymyrrodd yr Aelod o’r Senedd ar unwaith i sicrhau bod y gollyngiadau dŵr yn cael eu hatal.
Mae’r byrst nawr wedi’i atgyweirio ac roedd gwaith ffordd dros dro ar waith dros nos.
Gan roi sylwadau ar y gollyngiad, dywedodd Janet:
“Mae gan breswylwyr Penmaenmawr bob hawl i fod yn rhwystredig gyda’r gollyngiad a welodd ddŵr yn llifo i lawr priffordd am oddeutu tair wythnos.
“Fel y dywedais yn glir wrth y Pennaeth Cyfathrebu Strategol, o ystyried ein bod yng nghanol cyfnod oeraf y flwyddyn, ac yn aml yn ei gweld hi’n rhewi, mae presenoldeb parhaus dŵr yn llifo o’u seilwaith yn dipyn o risg iechyd a diogelwch.
“Er fy mod yn ddiolchgar i Dŵr Cymru am ymateb yn gyflym i’m pryderon, rwyf am i’r sefydliad weithredu mewn ffordd fwy rhagweithiol sy’n lleihau’r amser a’r poen meddwl mae preswylwyr yn ei ddioddef cyn i’r problemau gael eu datrys”.
Yr wythnos hon, bydd yr Aelod yn craffu ar Dŵr Cymru yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn y Senedd, ar fater y seilwaith pibellau, ansawdd dŵr a gwaredu gollyngiadau dŵr.