Yn dilyn ei hymyriad brys ar y mater ym mis Rhagfyr, mae Janet Finch-Saunders AS Aberconwy wedi beirniadu haeriad Llywodraeth Cymru nad oes "cysylltiad clir" â chynnydd uniongyrchol mewn peryglon llifogydd neu erydiad tir i gartrefi ar West Shore Road, yn dilyn difrod a fu i'r morglawdd yn Llanfairfechan.
Mae'r Aelod wedi darparu copi o'r ateb i'r Awdurdod Lleol er mwyn adolygu'r camau nesaf priodol. Adeg y storm, roedd gwaith eisoes wedi dechrau i drwsio'r difrod a achoswyd i'r llwybr cyhoeddus a'r morglawdd gan storm flaenorol ar 5 Hydref 2021, a adawodd sawl eiddo ar hyd West Shore Road yn fwy agored i lifogydd.
Wrth sôn am yr ateb, dywedodd Janet:
“Ar ôl ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gofyn am gydweithio â'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i weld a oes modd pennu cyllideb wrth gefn hirdymor, wedi'i glustnodi, er mwyn helpu awdurdodau lleol yn ariannol pan fydd difrod annisgwyl a hirdymor yn digwydd, roeddwn yn siomedig iawn o gael ateb a oedd yn awgrymu y byddan nhw'n dilyn yr un llwybr adweithiol.
“Gyda'r achosion o dywydd stormus yn debygol o gynyddu gan beryglu bywoliaeth leol, fel yr amlinellwyd yn Adroddiad CCRA3 y llynedd, mae angen dybryd i Lywodraeth Cymru fod yn fwy rhagweithiol wrth gydweithio â chymunedau.
“Er fy mod i'n cydnabod bod sgwrs gyda swyddogion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi'i chynnal i adolygu'r sefyllfa yn Llanfairfechan mewn ymateb i'm llythyr, bydd trigolion yr ardal gyfagos yn cadarnhau bod pryder cyffredinol ynghylch potensial llifogydd ar hyd West Shore Road. Mae'r pryderon hyn wedi'u tanseilio gan yr ateb di-hid hwn.
“Byddaf yn parhau i weithio gyda thrigolion a'r awdurdod lleol i adolygu'r sefyllfa yn Llanfairfechan, ac ar draws yr etholaeth ehangach, er mwyn sicrhau y gallwn warchod ein cymunedau yn erbyn bygythiadau newid hinsawdd. Os oes gan etholwyr unrhyw bryderon ar unwaith, dylent gysylltu â'm swyddfa am gymorth cyn gynted â phosibl.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Amgaeaf gopi o'r llythyr a anfonwyd ym mis Rhagfyr.
- Amgaeaf gopi o ateb y Gweinidog.
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS