Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd Aberconwy – wedi croesawu’r newyddion y bydd Llandudno yn elwa ar fuddsoddiad sylweddol mewn pwynt gwefru cerbydau trydan.
Bydd y cyllid yn cefnogi ymrwymiadau gwefru Cerbydau Trydan Network Rail drwy gyflwyno tarwsgludydd 1000kVA newydd i gyflenwi gorsafoedd gwefru cerbydau trydan 600kW yng Ngorsaf Drenau Llandudno. Mae’r rheolydd ynni Ofgem wedi dweud ei fod yn buddsoddi £300 miliwn i ehangu rhwydwaith gwefru cerbydau trydan y DU.
Yn croesawu’r buddsoddiad, dywedodd Janet:
“Rwyf ar ben fy nigon bod Llandudno wedi’i ddewis gan OFGEM ar gyfer buddsoddiad yn y cylch cyllido hwn, gyda’r ymrwymiad hwn yn sicrhau bod ein hybiau trafnidiaeth yn parhau ar reng flaen arloesi.
“Gyda’n sectorau twristiaeth a lletygarwch yn gobeithio codi eto a mwynhau sawl tymor cryf, bydd yr ymgyrch ynni gwyrdd hwn yn wefreiddiol i’n hadferiad economaidd.
“Gyda mwy na 500,000 o geir trydan yn teithio ar ein ffyrdd bellach, a gyda’r nifer yn mynd i gynyddu wrth i ni agosáu at y gwaharddiad ar werthu ceir a faniau petrol a diesel newydd, bydd gwella’r seilwaith lleol yn hanfodol os ydym am sicrhau’r boblogaeth y bydd cerbydau o’r fath o fudd i’w bywydau.
“Gwyddom fod llawer yn dal i wynebu loteri cod post pan ddaw hi’n fater o gael gafael ar bwynt gwefru EV cyflym, felly dylai Llywodraeth Cymru adeiladu ar y buddsoddiad hwn yn y seilwaith gan OFGEM, yn enwedig yn ein cymunedau gwledig, er mwyn sicrhau y gall pob teulu bontio i’r drafnidiaeth lanach hon.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae rhagor o wybodaeth am y prosiectau a gyhoeddir ar gael yn nogfen penderfynu OFGEM: RIIO-ED1 Green Recovery Scheme.
Ffoto: Chuttersnap/UnSplash