Ddeunaw mis ers i’r Ceidwadwyr Cymreig alw am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i’r ffordd yr ymdriniwyd â’r pandemig COVID-19 yng Nghymru, mae Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi datgan yn glir bod safbwynt cyfredol Llywodraeth Cymru’n tanseilio gallu’r genedl i fyfyrio, cofio a pharatoi at beth a ddaw nesaf.
Yn yr Alban, bydd ymchwiliad COVID-19 dan arweiniad barnwr yn cael ei sefydlu erbyn diwedd y flwyddyn. Wrth i gefnogaeth i gynnal ymchwiliad tebyg yng Nghymru gynyddu, manteisiodd Mrs Finch-Saunders ar y cyfle heddiw mewn dadl ar y mater i groesawu galwadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am ymchwiliad COVID-19 penodol i Gymru.
Wrth siarad ar ôl ei chyfraniad i’r sesiwn rithwir, dywedodd Janet:
“Wrth gyfarfod gyda “Bereaved Families for Justice Cymru yn y Senedd fis diwethaf, roedd y straeon torcalonnus o golled a chaledi yn tanlinellu’r angen am atebion unwaith eto. Drwy ei chefnogaeth ddiwyro i ymchwiliad pedair gwlad, mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod rhoi atebion i’r cyhoedd yng Nghymru ar y penderfyniadau a gymerwyd ganddi, a chanddi hi’n unig.
“O gofio bod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull oedd yn dangos diffyg rhesymeg o godi mesurau’r cyfnod clo, yn amrywio o’r rheol bum milltir anghredadwy nad oedd yn cydnabod realiti cefn gwlad Cymru i ryddhau Cymru gyfan yn sydyn ar ôl y cyfnod atal byr, mae gwrthod yr ymchwiliad hwn yn golygu ein bod ni’n methu gwerthuso effaith rhai dulliau cyfyngu.
“Bydd hygyrchedd i’r atebion hyn yn allweddol i’n cymuned fusnes sydd wedi’i siomi’n arw gyda’r ffordd y gwnaeth Llywodraeth Cymru ymdrin â’r pandemig, gyda chymorth ariannol yn cyrraedd yn hwyr ac mewn ffordd ddryslyd, a cheisiadau’n cael eu derbyn ar sail cyntaf i’r felin yn lle yn ôl yr angen.
“Hyd heddiw, mae gen i fusnesau lletygarwch sy’n pryderu y bydd Llywodraeth Cymru’n penderfynu gwahardd gwerthu alcohol mewn tafarndai unwaith eto – cyfyngiad nad oedd yn gymesur ac a oedd yn niweidiol iawn i’r diwydiant lletygarwch, yn enwedig ym mis Rhagfyr pan fo busnesau’n gallu gwneud hyd at 25% o’u trosiant blynyddol.
“Fel y dywedais yn glir yn y ddadl heddiw, drwy guddio y tu ôl i ymchwiliadau i benderfyniadau Llywodraeth y DU ar Covid-19, mae Llywodraeth Cymru’n tanseilio ein gallu i fyfyrio, cofio a pharatoi at beth ddaw nesaf.”
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS/MS