Flwyddyn ers suddo'r Nicola Faith, a cholled drasig Carl McGrath, Ross Ballantine ac Alan Minard, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi addo y byddwn yn eu cofio nhw a'u teuluoedd yn y cyfnod anodd iawn hwn.
Methodd y Nicola Faith â dychwelyd i Harbwr Conwy ar 27 Ionawr 2021.
Wrth sôn am y dyddiad pwysig hwn, dywedodd Janet, sydd wedi gweithio gyda'r teuluoedd drwy'r cyfnod:
“Mae Carl, Ross, Alan a'u teuluoedd a'u ffrindiau i gyd yn fy meddyliau i ar yr adeg anodd iawn hon. Hoffwn ganmol y dewrder a ddangoswyd gan bob un ohonyn nhw wrth geisio dod o hyd i atebion a chreu gwaddol parhaol.
“Yn sgil y drasiedi, rhoddwyd gwleidyddiaeth bleidiol i'r neilltu er lles pawb gyda chydweithrediad rhwng Gweinidog Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths AS a minnau ac arweiniodd hyn at ddefnyddio llong ymchwil Rhodri Morgan i helpu i ddod o hyd i'r Nicola Faith.
“Gwelsom hefyd ymdrech aruthrol gan y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol, dan arweiniad Capten Jae Jones AFNI a'i dîm. Rydym yn disgwyl eu hadroddiad ynghylch sut y digwyddodd y ddamwain erchyll hon.
“Wna’i fyth anghofio'r ymdrech enfawr a wnaed gan yr RNLI, Gwylwyr y Glannau, pysgotwyr lleol a MAIB.
“Er bod y teulu a'n cymuned yn dal i ddod dros y peth, rwy'n addo parhau i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i mi i sicrhau nad yw Carl, Ross ac Alan yn cael eu hanghofio, a bod ein gwlad yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu i osgoi trychineb o'r fath sy'n digwydd eto”.
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS a Chapten Jae Jones AFNI, MAIB