Janet Finch-Saunders is today calling for the Betsi Cadwaladr Health Board to kick start a new echelon of recruitment for doctors and nurses. Following latest released data, indicating that in 2012, only 17 treatment pathways were waiting over 36 weeks to start treatment, ten years on, over 60,000 are now waiting over a 36 week period for treatment.
Commenting on the latest figures, Janet said.
“The North Wales health board need to recruit new doctors and nurses.
“I’m appalled that data shows such a huge increase in waiting times. This isn’t the health care system of the future and our citizens deserve better.”
“While I welcome the positive news of surgery opening in Llandudno, this doesn’t go far enough to handle the huge influx of patients waiting. We are in need of more skilled health workers from a varied background and who understand the challenges of patients here on the health board. We need action now.
“Expanding the north Wales medical school in Bangor to adequately meet the needs of patients in the region would assist greatly, but clear action needs to be taken to tackle the health board’s toxic reputation.
“The adventure capital of Wales is an amazing place to live. Surely, we can capitalise on that to attract and the health board try a new recruitment plan!”
Cymraeg:
Heddiw, mae Janet Finch-Saunders yn galw ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i roi hwb i don newydd o recriwtio meddygon a nyrsys. Yn dilyn y data diweddaraf a ryddhawyd, sy'n dangos mai dim ond 17 o lwybrau triniaeth oedd yn aros dros 36 wythnos i ddechrau triniaeth yn 2012, ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae dros 60,000 yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth erbyn hyn.
Wrth sôn am y ffigurau diweddaraf, dywedodd Janet:
“Mae angen i fwrdd iechyd y Gogledd recriwtio meddygon a nyrsys newydd.
“Mae'n warthus bod data'n dangos cynnydd mor enfawr mewn amseroedd aros. Nid dyma system gofal iechyd y dyfodol ac mae ein dinasyddion yn haeddu gwell.”
“Er fy mod i'n croesawu'r newyddion cadarnhaol bod meddygfa’n agor yn Llandudno, nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell i ymdrin â'r mewnlifiad enfawr o gleifion sy'n aros. Mae arnom angen mwy o weithwyr iechyd medrus o gefndiroedd amrywiol ac sy'n deall heriau cleifion yma ar y bwrdd iechyd. Mae angen gweithredu nawr.
“Byddai ehangu ysgol feddygol y Gogledd ym Mangor i ddiwallu anghenion cleifion yn y rhanbarth yn gymorth mawr, ond mae angen cymryd camau clir i fynd i'r afael ag enw gwael y bwrdd iechyd.
“Mae prifddinas antur Cymru yn lle anhygoel i fyw ynddo. Siawns na allwn ni fanteisio ar hynny i ddenu pobl, ac i'r bwrdd iechyd roi cynnig ar gynllun recriwtio newydd!”