Heddiw, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - wedi gofyn i’r Prif Weinidog adolygu canllawiau a gyhoeddwyd ar chwarae offerynnau chwyth sy’n achosi penbleth ar hyn o bryd i ŵyl gerddoriaeth leol enwog. Nawr, mae Mrs Finch-Saunders wedi gofyn am roi cynllun ar waith i ailafael mewn digwyddiadau mwy.
Yn rhoi sylwadau ar ei chwestiwn i’r Prif Weinidog, dywedodd Janet:
“Mae’r sector digwyddiadau yn rym allweddol yn ein rhanbarth, gyda digwyddiadau celfyddydol a chwaraeon yn denu ymwelwyr ac yn cyflogi llawer o drigolion lleol. Mae’r digwyddiadau hyn hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar ein busnesau lletygarwch a darparwyr llety.
“Fodd bynnag, mae llawer yn wynebu problemau gyda’r cyfyngiadau sydd ar waith. Yn wir, mae yna bwyntiau croes mawr yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector celfyddydau, gan achosi penbleth i ŵyl gerddoriaeth flaenllaw yn Aberconwy a gynhelir mewn eglwys.
“Fel y dywedais yn glir wrth y Prif Weinidog heddiw, er y gellir chwarae offerynnau chwyth o dan un gyfres o reolau ar gyfer y celfyddydau perfformio, mae’r mannau addoli yn atal eu defnydd o hyd. Dylai’n doniau lleol gael gwybod pryd y gallan nhw seinio unwaith eto.
“Mae digwyddiadau chwaraeon, fel marathonau a’r dyn cryf, hefyd yn haeddu eglurder ar unwaith. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried cynllunio a chyhoeddi cynllun ar gyfer cynnal digwyddiadau mawr unwaith eto, a rhoi blaenoriaeth i hynny. Nid yw dal ati gyda hanner cynllun yn gwneud unrhyw synnwyr.”
DIWEDD