Ar ôl mynychu Gŵyl Coed Nadolig Llandudno yn Eglwys Fethodistaidd Sant Ioan ar Stryd Mostyn, a oedd yn cynnwys arddangosiad o goed o ysgolion lleol a grwpiau cymunedol er budd Hosbis Dewis Sant, canmolodd Janet Finch-Saunders AS yr arwyddion arloesol a llawen o ewyllys da. Cynhaliwyd y fenter codi arian rhwng dydd Llun 13 Rhagfyr 2021 a dydd Sadwrn 18 Rhagfyr 2021.
Wrth ganmol yr ymdrechion i godi arian, dywedodd Janet:
“Tra bo’r Nadolig yn amser mor hapus a phleserus i lawer fel arfer, gall fod yn gyfnod unig dros ben hefyd. Mae’r arddangosiadau arloesol a llawen hyn o ewyllys da, yng Nghonwy a Llandudno, i’w croesawu’n fawr ar galendr digwyddiadau’r Nadolig sydd wedi helpu i ddod â’r gymuned at ei gilydd.
“Roeddwn i wrth fy modd o gael gwahoddiad i wylio’r arddangosiad hyfryd o goed yn Eglwys Fethodistaidd Sant Ioan. Roedd y wledd hon i’r llygaid yn dangos cymaint o greadigrwydd ac anhunanoldeb, gyda thrigolion lleol, busnesau ac ysgolion yn rhoi i’r achos gwrth chweil hwn, sef Hosbis Dewi Sant.
“Mae cymryd rhan yn y gwyliau codi arian hyn dros y Nadolig yn enghraifft hyfryd o garedigrwydd, ymroddiad a haelioni pobl y Gogledd. Mae’r gefnogaeth gymunedol barhaus i’r sefydliad anhygoel hwn yn tystio i’w effaith ar ein cymdeithas a’r gwasanaeth parhaus o ansawdd y mae’n ei ddarparu.”
Cynhaliwyd digwyddiad a oedd wedi’i drefnu yn gynt hefyd yng Nghonwy, mewn cydweithrediad â Daisy Chain Floral Design, Eglwys y Santes Fair gyda chefnogaeth Partneriaeth Rheilffordd Arfordirol Dyffryn Conwy a Gogledd Orllewin Cymru. Llwyddodd yr ŵyl yng Nghonwy i godi £1300 i gyd i’r elusen gofal lliniarol lleol hon.
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS yn edrych ar yr arddangosiadau coed.