Mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi ymweld â Chei Conwy i ddysgu mwy am y cwch y bydd grŵp lleol o wirfoddolwyr lleol yn hwylio ynddo o Gonwy yn y Gogledd i Fadagascar, drwy Dde Affrica, lle bydd yn cael ei hadfer, er mwyn helpu i ddarparu cymorth meddygol i’r rhai sydd ei angen.
Nod y cwch fydd darparu gofal meddygol ar arfordir dwyreiniol Madagascar, sydd â dyfrffyrdd mewndirol o 70 milltir heb fawr ddim gofal meddygol. Mae’r daith yn cael ei threfnu gan elusen Gristnogol o’r enw Youth With a Mission (YWAM), gyda’r gwaith yn cynnwys gosod dau glinig ar y cwch a fydd yn cael eu rhedeg gan grŵp rhyngwladol o hwylwyr. Mae gan YWAM dîm yn gweithio o gychod modur bach yn ardal Madagascar eisoes.
Wrth ganmol y daith anhunanol, dywedodd Janet:
“Roeddwn i’n falch iawn o gael ymweld â’r tîm a fydd yn hwylio’r Island Reach i ddymuno’r gorau iddynt o waelod calon ar eu taith o Gei Conwy i Fadagascar i ddarparu cymorth meddygol hanfodol i’r rhai sydd ei angen.
“Mae ymroddiad y tîm i gefnogi pobl ifanc gyda chyfleoedd gwirfoddoli drwy’r elusen Gristnogol YWAM yn drawiadol iawn, a bydd hyn yn helpu i ddod â grŵp rhyngwladol o gynorthwywyr at ei gilydd.
“Yn y tymor hwn o ewyllys da, ac fel cydnabyddiaeth i achos gwerth chweil a fydd yn cael effaith fuddiol ar gymaint o fywydau, rwy’n gwybod y byddai’r tîm yn croesawu unrhyw roddion defnyddiol o gyfarpar meddygol neu ddeintyddol, fel rhwymynnau neu gadeiriau deintydd segur.”
I roi cyfarpar meddygol neu ddeintyddol, e-bostiwch: capelgors@outlook.com.
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS yn cael golwg ar y cwch.