Mae Janet Finch-Saunders AS - yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi ymweld ag ymgymerwyr hynaf Llandudno i ddysgu mwy am fore coffi profedigaeth misol y cwmni. Mae Tristan Owen a Kelly Bowsher o Tom Owen a’i Fab, sydd wedi’u lleoli ar Heol Brynhyfryd yn Llandudno, yn cynnal y grŵp cymunedol ar drydydd dydd Iau y mis.
Mae’r ymdrech wedi’i chanmol gan Mrs Finch-Saunders sy’n hyrwyddo Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Alar 2021, sy’n ceisio cynnig cymorth a gobaith i’r rhai sy’n galaru ac ailgysylltu cymunedau a allai deimlo eu bod wedi’u hynysu yn eu profedigaeth.
Yn siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Janet:
“Mae’r wythnos ymwybyddiaeth genedlaethol hon, dan gwmwl tywyll cyfnod anodd a heriol iawn i lawer, yn ein helpu i fynd i’r afael â’r goel eich bod yn “dod dros” galar. Efallai eich bod yn symud ymlaen gyda’ch galar, ond efallai y bydd rhai yn cael eu heffeithio gan brofedigaeth gydol eu bywydau.
“Trwy gefnogi’r grwpiau hynny sy’n hwyluso cysylltiad a sgyrsiau, gallwn helpu i gael gwared ar y trallod ychwanegol a achosir gan unigedd. Mae hyn yn hynod bwysig nawr gan fod cyfyngiadau iechyd cyhoeddus diweddar wedi gwneud estyn allan at deulu a ffrindiau am gwtsh mawr ei angen a chysylltiad personol yn llawer anoddach.
“Hoffwn ganmol gwaith diflino Tom Owen a’i Fab am eu gwaith yn cynnal y grŵp profedigaeth cymunedol pwysig hwn, sy’n cael criw o tua 15-20 bob tro yn ôl pob sôn. Byddwn yn annog preswylwyr i estyn allan am gefnogaeth o’r fath os ydyn nhw ei angen.
“Dylai Tristan a Kelly fod yn falch o’r ffaith eu bod yn rhoi lle blaenllaw i fudd y gymuned, a bod eu busnes yn ddim ond un o ddau yng Nghymru sydd wedi’u cynnwys yn y Good Funeral Guide."
Cynhelir yr wythnos ymwybyddiaeth rhwng 2 a 8 Rhagfyr 2021. Bydd dros 100 o adeiladau nodedig, gan gynnwys Tŵr Blackpool a’r Theatr Genedlaethol, yn cael eu goleuo yn oren am 18:00 ar 8 Rhagfyr 2021, a byddwn yn cael munud o ddistawrwydd hefyd.
Os yw preswylwyr am gymryd rhan, mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn www.thegoodgrieftrust.org/nghaw <http://www.thegoodgrieftrust.org/ngaw/>.
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS gyda Tristan Owen a Kelly Bowsher.