Yn ystod ymweliad â chanolfan weithredu Ambiwlans Awyr Cymru yn y Gogledd, mae Janet Finch-Saunders AS Aberconwy wedi canmol “ymroddiad anhunanol” y criwiau, y staff, y codwyr arian a’r gwirfoddolwyr dan sylw.
Mae’r gwasanaeth yn bartneriaeth rhwng elusen Ambiwlans Awyr Cymru a GIG Cymru (drwy’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys), sy’n darparu gofal critigol hynod effeithiol i gleifion wrth sicrhau manteision ymhellach i lawr GIG Cymru.
Mewn ymweliad ar y cyd â Sam Rowlands, AS dros ranbarth y Gogledd, cafodd y gwleidyddion gyfle i gyfarfod Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr yr Elusen, yr Athro David Lockey, Cyfarwyddwr Cenedlaethol EMRTS, Mark Winter, Cyfarwyddwr Gweithrediadau EMRTS, a Stephen Curtis, un o Ymddiriedolwyr Elusen Ambiwlans, ym maes awyr Caernarfon.
Wrth sôn am y daith, dywedodd Janet:
“Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gwasanaeth meddygol brys hanfodol sy’n achub bywydau ar gyfer pobl sy’n ddifrifol wael ac wedi’u hanafu ledled Cymru. Mae’r ffaith bod eu tîm yn gallu cyrraedd claf sy’n ddifrifol wael yn unrhyw le yng Nghymru o fewn 20 munud i dderbyn galwad yn dyst i’w hymroddiad anhunanol.
“Gyda’r gofal safonol uwch mae’r criwiau’n ei ddarparu yn y fan a’r lle, a’r ffordd mae cleifion yn cael eu trosglwyddo’n gyflym i ofal meddygol arbenigol ledled Cymru, gan gynnwys gydol y nos, efallai ei bod hi’n rhy hawdd anghofio mai sefydliad elusennol sy’n dibynnu ar gefnogaeth y cyhoedd yw hwn.
“Ar ôl cefnogi gwaith gwerthfawr yr elusen wych hon yn y Senedd, roeddwn wrth fy modd o gael gwahoddiad i’w canolfan yn y Gogledd. Taith a oedd yn tanlinellu pa mor anhygoel o lwcus ydym i gael cyfleuster argyfwng o’r fath ar gyfer Cymru gyfan.
“Gyda hyn mewn cof, ac wrth i ni nesáu at dymor ewyllys da, rwy’n annog trigolion Aberconwy i ddysgu mwy am eu gwaith a sut y gallan nhw gefnogi’r achos.”
Ar hyn o bryd, mae’n costio £6.5 miliwn y flwyddyn i gynnal yr hofrenyddion hyn yn ystod y dydd. Er mwyn cynnal hofrennydd dros nos, rhaid i Ambiwlans Awyr Cymru godi £1.5 miliwn yn ychwanegol, sy’n golygu bod angen codi £8 miliwn y flwyddyn.
DIWEDD
Ffotograff #1: Janet Finch-Saunders AS y tu mewn i Ambiwlans Awyr Cymru.
Ffotograff #2: Janet Finch-Saunders AS a Sam Rowlands AS ar eu taith.