Mae dau anturiaethwr yn cynnig gofod croesawgar i’r gymuned leol a phobl ar eu gwyliau yn hen gwt cwch yr RNLI. Wrth siarad gyda Janet Finch-Saunders AS ar ymweliad diogel o ran Covid yn ddiweddar, eglurodd Andy ac Emma-Jane Sutcliffe am eu taith chwe blynedd a ddaeth i benllanw wrth agor Canolfan Ddringo The Boathouse.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Tachwedd 2018, i weddnewid gorsaf hanesyddol yn ganolfan ddringo newydd, gyda’r agoriad meddal yn digwydd bedwar mis yn ddiweddarach, ddydd Llun 25 Chwefror 2019. Bydd ymwelwyr â’r lleoliad yn sylwi sut mae’r dewis o gynllun a lliwiau’n cyd-fynd â’i hanes diddorol, gyda’r perchnogion yn dewis ailddefnyddio dodrefn a gadael rhai o’r nodweddion gwreiddiol yn eu lle.
Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Janet:
“Mae Canolfan Ddringo The Boathouse yn esiampl anhygoel ac arloesol o waith adnewyddu, gyda gwaith caled ac ymroddiad Andy ac Emma yn gwneud cryn gyfraniad at hybu’r hyn sydd gan y Gogledd i’w gynnig fel hafan antur Cymru. Mae cynnig gofod mor groesawgar a diogel i ddringwyr newydd yn dipyn o gamp, a hoffwn eu llongyfarch ar ailagor.
“Gyda dringo’n cael ei gynnwys yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf yr haf hwn pan gynhelir y gemau yn Tokyo, mae atyniad y gamp hon yn debygol iawn o gynyddu ac felly mae cael y lleoliad gwych hwn - gyda’i gymysgedd unigryw o ogofâu a neidiau - yng nghanol Llandudno yn debygol o apelio’n fawr at ymwelwyr.
“Ar ôl cynnal sgyrsiau gyda nifer o’n cwmnïau chwaraeon antur, gan gynnwys Canolfan Ddringo The Boathouse, rwy’n cydnabod bod pryderon o hyd am y cyfyngiadau sydd yn eu lle ar hyn o bryd. Byddaf yn dal ati i gyflwyno’r achos i’r awdurdodau angenrheidiol er mwyn i’r sector chwaraeon antur gael rhagor o gefnogaeth wrth adfer ac ailagor.”
Roedd y daith yn rhan o daith fusnes ddiweddaraf Janet o gwmpas Llandudno wrth iddi geisio cefnogi a dathlu doniau entrepreneuraidd lleol wrth i’r rhanbarth ddod dros bandemig Covid-19.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae Andy wedi treulio blynyddoedd lawer yn datblygu ei sgiliau a’i wybodaeth yn y sector awyr agored yn gweithio i wahanol gwmnïau ledled y DU mewn swyddi amrywiol. Mae wedi’i leoli yn y Gogledd dros yr 17 blynedd diwethaf gan weithio gyda llawer o Ganolfannau Awyr Agored, yn ogystal â gweithio’n defnyddio ei Drwydded Gweithgareddau Antur ei hun. Mae wedi treulio 8 o’r blynyddoedd hyn fel Cydlynydd Dringo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn y ddwy flynedd ddiwethaf mae wedi rhentu’r wal ddringo yng Nghanolfan Hamdden Cyffordd Llandudno, gan roi’r enw newydd hynod addas JunctionWall iddi.
- Mae Emma-Jane yn dod o gefndir cymunedol ac addysgol ac mae wedi bod mewn cymunedau ac ysgolion lleol di-rif yn hwyluso prosiectau dawnsio a chelfyddydau yn ardal Conwy ers 2002.