Yn ystod cwestiwn i Weinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, mae'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd – Janet Finch-Saunders AS – wedi annog y weinyddiaeth ddatganoledig i ddiwygio arferion caffael cyhoeddus i gynyddu faint o fwyd môr sy’n cael ei brynu a’i weini gan gyrff cyhoeddus.
Dyma'r ymyriad diweddaraf yn ymgyrch hirdymor yr Aelod i hyrwyddo cynhyrchwyr cynaliadwy yma yng Nghymru. Yn y Senedd flaenorol, fe wnaeth Janet annog Llywodraeth Cymru i greu mwy o safleoedd ar gyfer marchnadoedd bwyd; datblygu rhwydwaith o hybiau bwyd; a chyflwyno Siarter Bwyd a Diod Leol i annog siopau, caffis a bwytai i werthu bwyd a diod o ffynonellau lleol a helpu i hyrwyddo'r cynllun i ddefnyddwyr.
Gan danlinellu'r effaith gadarnhaol y gallai newid ei chael, dywedodd Janet:
“Mae ein diwydiant pysgota a'r sector dyframaeth yn parhau i fod yn elfen hanfodol o strategaeth fwyd Cymru. O grancod y Gogledd i gregyn gleision Conwy a Menai, mae cynhyrchwyr cynaliadwy yn darparu bwyd maethlon o'r radd flaenaf sy'n cynnwys ffynonellau protein ac omega 3 hanfodol i ddefnyddwyr.
“Gyda'r ymgynghoriad ar y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd bellach yn fyw, rhywbeth rwyf wedi ymateb iddo, mae'r sbotolau ar yr amcan budd cenedlaethol unwaith eto. Mae'n ein hatgoffa, o'r tua 666,000 tunnell o bysgod a gafodd eu dal yn y DU yn 2014, cafodd 75% eu hallforio.
“Rwy'n parhau i ddadlau bod angen i'r sector bwyd-dŵr yma yng Nghymru gael ei integreiddio'n fwy llawn mewn strategaeth bwyd a diod newydd, gan fod ei gadw ar wahân i’r maes bwyd amaeth ar hyn o bryd yn atal yr hyn y gellid ei ddisgrifio fel strategaeth fwyd gynhwysfawr.
“Heb os, gall Llywodraeth Cymru wneud llawer mwy yn awr i gefnogi cynhyrchwyr, o ran y farchnad ddomestig. Er mwyn sicrhau defnydd effeithlon o fwyd môr a gynaeafir o'n moroedd, rwyf wedi annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio arferion caffael cyhoeddus fel bod mwy o'n hysgolion a'n hysbytai yn gwneud mwy o ddefnydd o fwyd môr a physgod tymhorol Cymru, a bod y cynnyrch hwn yn rhan o brydau bob dydd y cyhoedd.
DIWEDD
Llun: gan Krisztian Tabori ar Unsplash