Mae bolardiau newydd wedi'u codi rhwng y gylchfan a Churchill Close, Llandudno, yn dilyn digwyddiadau lle daeth cerbydau oddi ar y briffordd a tharo â wal gardd, a gyrru i mewn i gegin preswylydd.
Yn dilyn y digwyddiad diweddaraf fis Awst diwethaf, mae Janet Finch-Saunders, Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi bod yn cysylltu gyda Tai Gogledd Cymru; Mr Geraint Edwards, Pennaeth yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; a chynrychiolwyr lleol. Mae'r Aelod wedi sicrhau y bydd deg bolard amddiffynnol yn cael eu darparu.
Wrth sôn am y gwaith dywedodd Janet:
“Rwyf wrth fy modd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwrando ar y pryderon a godwyd ac wedi darparu ateb a ddylai helpu trigolion Churchill Close i deimlo'n fwy diogel yn eu cartrefi.
“Ddylai neb orfod diodde'r trawma o gael cerbyd yn taro i mewn i'w gartref, felly rwy'n gobeithio bod y bolardiau'n darparu'r amddiffyniad sydd ei angen i gadw trigolion yn ddiogel.
“Efallai y bydd yn rhoi tawelwch meddwl i drigolion glywed nad yw dyluniad y gylchfan wedi cael ei ystyried yn ffactor achosol yn y digwyddiadau”.