Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

COVID-19: Llai o bobl nag erioed yn mynd i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn y Gogledd

  • Tweet
Thursday, 28 May, 2020
Hospital

Mae Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Pobl Ifanc a Phobl Hŷn yr Wrthblaid – yn atgoffa pawb bod drysau adrannau achosion brys yn dal ar agor i’r rhai sydd angen gofal ar unwaith. Daw hyn ar ôl y newyddion bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gweld y nifer isaf erioed o unigolion mewn Unedau Damweiniau ac Achosion Brys ym mis Ebrill.

Yn rhoi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Mrs Finch-Saunders:

"Mae ein cymuned wedi dod at ei gilydd i gefnogi gweithwyr rheng flaen ac ysgafnhau’r pwysau ar y Gig yn ystod y pandemig hwn.

“Un lle sy’n gweld effaith ein hymdrech genedlaethol yw ein hadrannau damweiniau ac achosion brys.

“Roedd nifer y cleifion a aeth i adrannau damweiniau ac achosion brys yn y Gogledd ym mis Ebrill i lawr 56% ar yr un mis y llynedd.

“Mae’r ffaith fod dros 10,00 yn llai wedi mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn awgrymu o bosib nad yw rhai yn gwybod bod y gwasanaeth ar agor, ac nad oes angen dioddef pan fo cymorth ar gael i’r bobl sydd wirioneddol ei angen.

“Ffoniwch 999 neu ewch i’ch adran achosion brys leol os ydych chi’n poeni go iawn. Peidiwch â’i gadael hi’n rhy hwyr”.

DIWEDD

 

Nodiadau:

  • Mae adrannau argyfwng Cymru ar agor ac ar gael i’r rhai sydd eu hangen ar frys
  • Nifer y derbyniadau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn y GIG yng Nghymru yn ôl band oedran, rhyw a safle

Attachments

Attachment Size
Nifer o ymweliadau ag Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 73.65 KB
  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree