Daeth aelodau o bob rhan o'r gymuned ynghyd yn rhithwir brynhawn Gwener i drafod datblygiad arfaethedig caeau Bodafon.
Roedd nifer dda yn y cyfarfod cyhoeddus a drefnwyd gan Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, gyda chynrychiolwyr o Anwyl, Satplan Ltd, Ysgol y Gogarth, Ysgol Bodafon, a'r gymuned ehangach yn bresennol i ystyried sawl agwedd ar y cynnig, gan gynnwys yr effaith ganlyniadol bosibl i fyfyrwyr Ysgol y Gogarth, materion priffyrdd, a dyluniad eiddo.
Ar ôl y cyfarfod, meddai Janet:
“Roeddwn yn falch iawn o gynnull y cyfarfod cyhoeddus pwysig hwn, gan roi cyfle gwerthfawr i drigolion a rhanddeiliaid lleol i holi'r rhai sydd y tu ôl i'r datblygiad. Rydw i wedi datgan yn glir bod tryloywder yn parhau i fod yn allweddol gydag unrhyw brosiect tai, ac felly mae’n iawn i bryderon gael eu clywed, eu hadolygu a'u trafod.
“Roedd y cyfarfod yn cydnabod pryderon ynghylch mynediad i Ffordd Nant y Gamar a'r posibilrwydd y gallai'r datblygiad hwn ychwanegu at bryderon sydd wedi hen fodoli am ddiogelwch rhieni a phlant sy'n croesi'r briffordd. Codwyd materion hefyd ynghylch effaith bosibl y gwaith adeiladu ar Ysgol y Gogarth, yn ogystal â gwasanaethau lleol eraill, ac felly mae'n amlwg bod angen adolygiad pellach.
“Wrth i'n rhanbarth ddod yn gyrchfan fwy deniadol i fyw a gweithio ynddi, rydyn ni oll yn cydnabod yr angen i adeiladu mwy o dai ar draws etholaeth Aberconwy. Fodd bynnag, ymddengys y bydd y safle wrth gefn hwn yn fwy o drafferth nag o werth, gydag effaith ganlyniadol bosibl ar yr amgylchedd a bywyd gwyllt.
“Rydw i wedi bod yn glir yn gyson bod yn rhaid i unrhyw gynigion gyd-fynd â'r seilwaith presennol. Edrychaf ymlaen at gynnal mwy o sesiynau gyda'r gymuned ar y mater sensitif hwn. Yn wir, rydw i'n parhau i annog preswylwyr i gysylltu â'm swyddfa os oes ganddyn nhw bryder, fel y gellir cofrestru pob barn.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae datganiad blaenorol yr Aelod ar y cynnig hwn i'w weld yma.