Mewn cyfarfod a oedd yn cydymffurfio â’r mesurau Covid gyda rhanddeiliaid yn Llanfairfechan heddiw, roedd Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - yn falch o dderbyn cadarnhad na fydd Dŵr Cymru yn mynd ati i ddraenio cronfa ddŵr Llyn Anafon, ond yn hytrach yn dewis gostyngiad o 37%.
Ar hyn o bryd mae gan Lyn Anafon ddosbarthiad risg uchel gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn rhannol oherwydd y risg i’r boblogaeth i lawr yr afon. Mae’n dal oddeutu 63,200 tunnell o ddŵr ar hyn o bryd, ac fel ased nad yw’n cael ei ddefnyddio, mae Dŵr Cymru yn cynnig mesurau i fynd i’r afael â’r gollwng sylweddol a’r pant yn yr arglawdd.
Gan roi sylwadau ar ôl y cyfarfod, dywedodd Janet:
“Mae gan Lyn Anafon hanes cyfoethog a balch i bobl Llanfairfechan, Dwygyfylchi a Phenmaenmawr. Fodd bynnag, gyda’r risg o ollyngiadau yn y dyfodol yn uchel ac yn effeithio ar gartrefi lleol o bosibl, mae Dŵr Cymru bellach wedi cynnig gostyngiad o 37%.
“Bydd gostwng y llinell ddŵr yn araf yn sicrhau bod y safle yn parhau yn nodwedd o’r dirwedd leol, tra’n cyflawni’r angen i weithredu o dan y rheoliadau presennol. Rwy’n falch hefyd o glywed bod gwaith eang a phriodol i ddiogelu’r fflora a’r ffawna wedi’i gyflawni.
“Yn wir, mae’r astudiaethau ecolegol diweddar wedi datgelu bod gan y llyn, er ei fod yn safle silio ar gyfer y brithyll, amgylchedd sy’n oligotroffig ac felly nad yw’n cynnig fawr ddim i gynnal bywyd. Gyda hyn mewn golwg, gobeithio y bydd y gwaith hwn yn helpu i ddymchwel y rhwystrau sy’n bodoli i’r pysgod fudo.
“Ar ôl i ddraenio achosi problemau i ddefaid a merlod gwyllt yn 2008, mae trigolion wedi rhannu eu pryderon gyda mi ynghylch effaith draenio ar y tir fferm cyfagos. Rwyf wedi defnyddio cyfarfod heddiw i sicrhau bod y broblem bosibl hon yn cael ei datrys gan swyddogion Dŵr Cymru.”
DIWEDD
Ffoto: Janet Finch-Saunders AS yn y cyfarfod yn Llanfairfechan.