Mae’r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi cynnal cyfarfod safle gyda Jo Whitehead, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno yn sgil ei chais i adolygu'r ffordd orau o "gynnal ac adfer" y gwasanaethau sydd ar gael.
Daeth yr ymweliad yn dilyn y newyddion cadarnhaol bod Ysbyty Llandudno wedi mabwysiadu cynllun arbennig dros y gaeaf er mwyn helpu i leddfu pwysau gwelyau mewn safleoedd eraill. Daw'r datblygiad ar ôl cadwyn o ymyriadau gan Janet sydd wedi cynnwys:
- Arwain galwadau i ailagor yr Uned Gofal Symudol (ACU) ar ôl iddi ddarganfod na fu unrhyw gleifion yno yn ystod 2021;
- Ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn gofyn i'r Pwyllgor ystyried y posibilrwydd o leihau'n rhannol y problemau difrifol a achosir gan oedi wrth ryddhau cleifion yn nhri ysbyty cyffredinol y Gogledd, trwy gael polisi sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cleifion hynny sy'n feddygol iach i'w rhyddhau gael eu trosglwyddo i ysbytai fel Llandudno;
- Ysgrifennu erthygl yn y North Wales Weekly News yr wythnos diwethaf yn tynnu sylw at y ffaith y gellid gwneud gwell defnydd o’n hysbytai llai.
Ar ôl cyflwyno cais i ofyn am i Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno (LHAG) gyfarfod i drafod yr angen am ffordd fwy cadarnhaol ymlaen yn yr hirdymor, trefnwyd trafodaeth rithwir ar gyfer dechrau mis Ionawr 2022.
Wrth sôn am y drafodaeth gyda'r Prif Weithredwr, dywedodd Janet:
“Ar ôl mynd i'r afael â'r mater er mwyn ategu'r gred leol nad oes hanner digon o ddefnydd yn cael ei wneud o'r cyfleusterau gofal iechyd rhagorol yn Ysbyty Llandudno, roeddwn i'n falch o'r cyfle i gyfarfod â Jo Whitehead ar y safle er mwyn pwysleisio fy nghred y gallai'r sefydliad canolog hwn helpu i leddfu'r straen ar safleoedd eraill yn y rhanbarth.
“Rwy'n gobeithio y bydd y syniad diweddar o greu ward bontio yma yn Llandudno yn rhan o duedd ehangach o wrthdroi'r arfer o ganoli gwasanaethau yn y tri ysbyty cyffredinol.
“Yn bwysicach fyth, yn Ysbyty Llandudno mae'r unig ganolfan esgyrn yn y Gogledd a does dim cynlluniau i symud neu leihau'r gwasanaeth hwn. Hoffwn weld y Bwrdd Iechyd yn adeiladu ar yr ymrwymiad hwn drwy adolygu'r rhestr o gyfrifoldebau ar gyfer yr Uned Mân Anafiadau i benderfynu a all gynnig mwy o gymorth a gofal rownd y cloc.
“Gydag Uned Mân Anafiadau Llandudno eisoes yn perfformio'n rhagorol, mae gan yr Ysbyty botensial mawr. Edrychaf ymlaen at gyfarfod Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno ym mis Ionawr er mwyn creu cynllun gweithredu cadarnhaol i sicrhau bod mwy o gleifion yn cael gofal lleol ac amserol."
Ymhlith y cyfleusterau yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno mae Uned Dwysedd Esgyrn, Uned Osteoporosis ac Uned Rhewmatoleg. Mae'r Uned Mân Anafiadau yn gallu helpu gyda phoenau ysigo (sprain); toriadau a chlwyfau crafu; sgaldio; rhywbeth yn llygad unigolyn; achosion o frathu a phigo gan bryfed; a mân anafiadau i'r pen hefyd. Fodd bynnag, dim ond o 8 y bore tan 8 yr hwyr mae’r Uned ar agor bob dydd.
DIWEDD
Llun: gan JESHOOTS.COM ar Unsplash