Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi annog Llywodraeth Cymru i gyflymu'r broses o sgrinio am ganser y coluddyn i ddynion a menywod rhwng 50 a 59 oed, yn dilyn y datgeliad na fydd y cynllun ehangu'n raddol fesul oedran yn cael ei gwblhau tan 2024-25.
Daeth y datgeliad drwy ateb sylweddol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a ddarparwyd yn dilyn nifer o Gwestiynau Ysgrifenedig gan Mrs Finch-Saunders. Ar hyn o bryd, mae cyngor arbenigol Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UKNSC) yn argymell sgrinio'r coluddyn yn rheolaidd ar gyfer dynion a menywod rhwng 50 a 74 oed.
Ar hyn o bryd mae Sgrinio Coluddion Cymru yn anfon pecyn sgrinio at ddynion a menywod rhwng 60 a 74 oed bob dwy flynedd, gyda Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ehangu oedran y rhaglen yn raddol. Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Cancer Research UK, a gynhaliodd astudiaeth ddiweddar, yn galw am ymgyrchoedd cenedlaethol i annog pobl i gael eu sgrinio.
Wrth siarad am yr angen i adolygu'r amserlen arfaethedig, dywedodd Janet:
“O ystyried bod arolwg diweddar ledled y DU gan Brifysgol Caerdydd wedi canfod bod mwy nag 1 o bob 5 o bobl yn llai tebygol o gymryd rhan mewn rhaglen sgrinio am ganser am ddim na chyn y pandemig, rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd y cam cyntaf i sicrhau nad yw'r cyhoedd yn oedi cyn wynebu problemau'n ddiweddarach.
“Drwy adolygu'r amserlen arfaethedig ar gyfer ehangu'r rhaglen, gall Llywodraeth Cymru ddechrau wynebu'r ôl-groniad a dechrau cynnig diagnosis amserol i bobl a'r gofal personol sydd ei angen arnynt.
“Mae caniatáu i'r rhaglen hon ehangu hyd at dair blynedd yn methu â chydnabod mai canser y coluddyn yw'r mwyaf angheuol ond un yn y DU. Mae modd ei drin a'i wella, yn enwedig pan gaiff ddiagnosis cynnar, ond byddwn yn parhau i siomi pobl os na chaiff y rhaglen hon ei chyflwyno'n gynt.
“Yn y cyfamser, rwy'n annog unrhyw un sydd â symptomau i gysylltu â'u meddyg teulu ac i bobl fynychu eu hapwyntiadau diagnostig a thriniaeth.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Amgaeaf gopi o ateb sylweddol y Gweinidog.
- Gallwch weld Cwestiynau Ysgrifenedig Janet drwy glicio yma ac yma.
Llun: Janet Finch-Saunders AS