Mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi croesawu’r newyddion bod gyrwyr Arriva Cymru wedi derbyn cytundeb cyflog, a bod hynny felly’n golygu na fydd streic. Daw’r newyddion ar ôl gwell cynnig gan Arriva, a dderbyniwyd drwy bleidlais ddoe.
Gan groesawu’r newyddion positif, dywedodd Janet:
“Ar ôl cyfarfod swyddogion o Arriva Cymru'r wythnos diwethaf i adolygu’r sefyllfa, rwy’n croesawu’r newyddion bod gyrwyr Arriva Cymru wedi derbyn y cytundeb gwell hwn yn eu pleidlais, yn dilyn ymgysylltu cadarnhaol gan y naill ochr a’r llall wrth geisio cael ateb teg, y byddai pawb yn cytuno arno.
“Gyda llawer o etholwyr yn dibynnu ar y gwasanaethau hollbwysig hyn ledled yr etholaeth i gyrraedd mannau cyflogaeth ac addysg, bydd cael gwared ar y posibilrwydd o streic yn helpu i sicrhau bod pethau yn eu lle drwy’r cyfnodau gwyntog a gaeafol.
“Ar adeg dyngedfennol i raglen y brechlynnau atgyfnerthu, a gyda mwy o bobl bellach yn gymwys i dderbyn brechiad a mwy o alw ar i breswylwyr ymweld â chanolfannau meddygol, mae darpariaeth gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus reolaidd a dibynadwy yn elfen hanfodol yn ein hamddiffyniad.
“Mae’r newyddion hyn yn sicrhau y gall y rhaglen hon barhau i fynd o nerth i nerth.”
DIWEDD
Ffotograff: gan Ant Rozetsky ar Unsplash