Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi canmol y dorf fawr o ymwelwyr a thrigolion a ddaeth ynghyd i wasanaeth Sul y Cofio yn Llandudno, gyda lluniau o'r awyr yn dangos y cannoedd a oedd wedi ymgynnull o amgylch Cofeb Ryfel y dref i "ddangos parch ac i fyfyrio’n ddwys.” Gosododd Mrs Finch-Saunders dorch wrth y Gofeb, a’r wythnos flaenorol cyfarfu â chynrychiolwyr y Lleng Brydeinig Frenhinol lle bu’n trafod y gefnogaeth y mae’r elusen yn ei rhoi i ofalwyr di-dâl yn y gymuned a thrwy'r gwasanaeth Nyrsio Admiral mewn partneriaeth â Dementia UK.
Wrth ddiolch i'r trefnwyr, dywedodd Janet:
“Mae Sul y Cofio yn achlysur hiraethus iawn i gydfyfyrio ar wasanaeth ac aberth aelodau ein lluoedd arfog ym Mhrydain, y Gymanwlad, a thu hwnt. Nid aiff gwrhydri rhyfeddol o ddewr ac arwrol yn enw democratiaeth a rhyddid fyth yn angof.
“Roedd yn anrhydedd cael gosod torch ar ran y gymuned yn y gwasanaeth hwn lle daeth torf dda ynghyd wrth Gofeb Rhyfel Llandudno, gydag oddeutu dwy fil a mwy yn bresennol i ddangos parch ac i fyfyrio’n ddwys. Roedd yn galonogol iawn gweld y fath gefnogaeth wrth inni allu cynnal gwasanaeth Sul y Cofio mwy traddodiadol unwaith eto.
“Hoffwn dalu teyrnged i'n cangen leol o'r Lleng Brydeinig Frenhinol, ein haelodau presennol a blaenorol o’r lluoedd arfog, y gwasanaethau sifil rheng flaen, Cyngor Tref Llandudno a staff clercio, urddasolion lleol ac unigolion fel Adrian Hughes o Amgueddfa Ffrynt Cartref wych y dref am eu rhan yn sicrhau bod y gwasanaeth pwysig hwn wedi ei gynnal mor llwyddiannus unwaith eto.”
Cynhaliwyd Diwrnod cyntaf y Cofio ar 11 Tachwedd 1921, yn dilyn ymgyrch dan arweiniad Iarll Haig, Pengadfridog y Fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a sylfaenydd y Lleng Brydeinig.
DIWEDD
Llun gan Monica Galentino