Mae safle Pafiliwn hanesyddol Llandudno wedi’i brynu gan y cwmni sy’n berchen ar Bier Llandudno, Tir Prince Leisure Group. Ym mis Hydref 2021, rhoddwyd y safle rhestredig Gradd II* 0.5 erw ar werth drwy arwerthiant gyda phris gofynnol o tua £2.8 miliwn, ac roedd yr arwerthiant i fod i gael ei gynnal yn ddiweddarach y mis hwn.
Yn rhoi sylwadau ar y datblygiad, dywedodd Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy:
“Rwy’n llongyfarch Tir Prince Leisure Group ar eu buddsoddiad.
“Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi sicrwydd mawr ei angen ynghylch datblygiad sydd wedi achosi pryder amlwg ar lefel leol a chenedlaethol.
“Yn anffodus, mae’r tir hwn wedi bod yn wag ers i dân ddinistrio’r hen bafiliwn fwy na 20 mlynedd yn ôl. Gyda Brenhines Cyrchfannau Cymru yn hen ffefryn gwyliau i gymaint o dwristiaid, sy’n aml yn teithio yma i wirioni ar swyn Fictoraidd Llandudno, mawr obeithiaf y bydd unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol yn ystyried yr amgylchedd lleol.
“Yn wir, mae gen i bob hyder y bydd caffaeliad Mr Adam Williams a’i dîm yn helpu i sicrhau dyfodol hirdymor Pier Llandudno a Llandudno fel trysor twristiaeth y Gogledd.
DIWEDD