Cyn nodi Dydd y Cadoediad, a chadw’r ddwy funud ddistaw am 11:00 y bore ledled y wlad, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy wedi cyhoeddi datganiad o fyfyrdod a choffadwriaeth:
“Achlysur hiraethus yw Dydd y Cofio i gydfyfyrio ar wasanaeth ac aberth aelodau ein lluoedd arfog ym Mhrydain, y Gymanwlad, a thu hwnt. Nid aiff y gwrhydri rhyfeddol o ddewr ac arwrol yn enw democratiaeth a rhyddid fyth yn angof.
“Bydd gan lawer o drigolion eu hatgofion eu hunain, naill ai am berthnasau a aeth i ffwrdd i wasanaethu ein gwlad neu am eu profiadau mwy diweddar eu hunain o wrthdaro. Bydd cael cynnal gwasanaethau a gorymdeithiau traddodiadol Dydd y Cofio unwaith eto yn rhywbeth i’w groesawu ac yn gyfle i fyfyrio'n dawel ac yn unigol.”
Cynhaliwyd Dydd cyntaf y Cofio ar 11 Tachwedd 1921, yn dilyn ymgyrch dan arweiniad Iarll Haig, Pencadfridog y Fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a sylfaenydd y Lleng Brydeinig.
I nodi canmlwyddiant y sefydliad, fe fu Mrs Finch-Saunders yn cyfarfod â chynrychiolwyr y Lleng Brydeinig Frenhinol. Bu cyfle i drafod y gefnogaeth mae’r elusen yn ei rhoi i ofalwyr di-dâl yn y gymuned a'r gwasanaeth Nyrsio Admiral mewn partneriaeth â Dementia UK. Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Janet:
“Mae'r cofio eleni yn hynod hiraethus i'r Lleng Brydeinig Frenhinol, wrth i'r sefydliad ddathlu ei ganmlwyddiant. Dros y 100 mlynedd diwethaf, mae'r Lleng Brydeinig wedi gwneud gwaith gwirioneddol ysbrydoledig a hael, yn cefnogi staff presennol a blaenorol y lluoedd arfog a'u teuluoedd.
“Mae'n rhoi cymorth emosiynol a seicolegol i aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog sy'n gofalu am rywun â dementia, ac mae rhwydweithiau ymarferol fel y gwasanaeth Nyrsio Admiral yn tanlinellu'r effaith ddofn y mae'r Lleng Brydeinig yn parhau i'w chael yn ei hymgyrchoedd i hyrwyddo buddiannau ein personél sy'n gwasanaethu a'u teuluoedd.”
Bydd Mrs Finch-Saunders yn mynychu seremoni'r cofio wrth Gofeb Rhyfel Llandudno ddydd Sul, a bydd cynrychiolwyr yn gosod torchau ar ei rhan mewn seremonïau yng Nghonwy a Llanrwst.
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS gyda'r Lleng Brydeinig Frenhinol