Ar ôl mynegi pryderon gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch maint y ciwiau a welwyd y tu allan i ganolfannau brechu yn yr etholaeth, mae Janet Finch-Saunders AS, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi annog preswylwyr i beidio â chyrraedd y canolfannau yn gynnar er mwyn helpu i atal rhesi diangen y tu allan.
Yn ogystal â throi i fyny yn gynnar, mae’r Bwrdd Iechyd wedi pwysleisio y gall absenoldeb staff a phresenoldeb gofalwyr yn ddiweddar achosi pwysau ychwanegol sy’n arwain at giwiau. O ran y broblem staffio a grybwyllwyd, mae’r Prif Weithredwr yn cadarnhau bod ei swyddogion yn gweithio i recriwtio a hyfforddi brechwyr ychwanegol ond bod yn rhaid iddynt ystyried yr effaith ar wasanaethau eraill y Bwrdd Iechyd.”
Mae Mrs Finch-Saunders hefyd wedi gofyn i’r Bwrdd Iechyd adolygu pa gamau pellach y gellid eu cymryd i ddiogelu pobl sy’n mynychu rhag yr oerfel a thywydd gaeafol. Yn ei hymateb, dywedodd Jo Whitehead PSM, Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd:
“Pan fo’r tywydd yn arw iawn, mae staff ein canolfan frechu yn cael cyfarwyddyd i gynnal asesiadau risg deinamig a lleihau’r mesurau pellter cymdeithasol o 2m i 1.5m er mwyn gallu gadael pobl i mewn i’r lleoliad yn gynt os ydyn nhw’n meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny.”
Gan roi ei sylwadau ar ei hymyrraeth, dywedodd Janet:
“Mae ein hymatebwyr Coronafeirws anhygoel yn glod i’w proffesiwn, ac unwaith eto yn dangos pam y bydd ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ein darparwyr gofal a’n lluoedd arfog wastad yn destun balchder yn Aberconwy, Cymru a’r Deyrnas Unedig.
“Fodd bynnag, o ystyried y tywydd gaeafol diweddar, rwyf wedi bod yn poeni am nifer yr adroddiadau am gyfnodau aros estynedig y tu allan i’r lleoliadau brechu i gleifion. Yn wir, dim ond yr wythnos diwethaf, mi ges i adroddiad bod claf wedi cyrraedd canolfan frechu Llandudno tua thri munud yn gynnar dim ond i orfod aros y tu allan am dros hanner awr.
“Gyda demograffeg etholaeth Aberconwy yn hŷn a llawer o’r rhai sy’n mynychu’r ganolfan â chyflyrau isorweddol, rwy’n croesawu’r newyddion bod y Bwrdd Iechyd yn gobeithio recriwtio brechwyr ychwanegol ac yn asesu eu hasesiad risg er mwyn i bobl gael dod i mewn yn gynt.
“Tra bod cyrraedd yn gynnar fel arwydd yn arwydd o gwrteisi, gyda’r pwysau ar y canolfannau brechu yn amlwg bellach, byddwn yn annog pawb i gyrraedd yn brydlon ar gyfer eu hapwyntiad er mwyn lleihau’r cyfnod aros y tu allan.”
Mae copi o’r llythyr a dderbyniwyd ynghlwm.
DIWEDD
Ffotograff: gan Daniel Schludi ar Unsplash