Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd Aberconwy, wedi ategu sylwadau Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy’n annog pobl sy’n byw yn ardaloedd Cyffordd Llandudno, Llandudno a Bae Penrhyn i fod yn ymwybodol o symptomau Coronafeirws a chael prawf cyn gynted â phosibl hyd yn oed os nad oes ganddynt unrhyw symptomau.
Daw’r cyngor yn dilyn y newyddion bod 35 achos wedi’u cadarnhau neu dybiedig pellach o’r amrywiolyn sy’n destun pryder ac a nodwyd yn India yn wreiddiol (VOC-21APR-02) wedi’u canfod yn yr ardal dros benwythnos Gŵyl y Banc.
Meddai Janet am y sefyllfa yn lleol:
“Rwy’n annog cynifer o drigolion â phosibl i gael prawf ar unwaith.
“Er na fydd gennych unrhyw symptomau o bosibl, gallai’ch ymddygiad anhunanol helpu i nodi rhagor o achosion, gan alluogi swyddogion olrhain cyswllt i weithredu er mwyn rhoi stop ar ledaeniad yr amrywiolyn.
“Cofiwch hefyd ei bod yn bwysig diogelu ein hunain a phobl eraill trwy gadw pellter o ddau fetr o leiaf oddi wrth bawb arall, golchi ein dwylo yn rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb pan fydd angen.
“Os nad ydych chi wedi cael brechlyn, dylech fynychu un o’r sesiynau yn Venue Cymru.
“Trwy gydweithio fel cymuned mae gennym le i obeithio bod modd cadw’r amrywiolyn sy’n peri pryder o dan reolaeth”.
DIWEDD
- Trigolion heb symptomau: Mae profion LFD ar gael i’w casglu o’r Uned Brofi Symudol yn Ysgol Awel y Mynydd Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9RZ. Canolfan galw i mewn/profi drwy ffenestr y car yw hon, ac nid oes angen gwneud apwyntiad. Mae’r ganolfan ar agor rhwng 0800 a 2000 (mae ar gau rhwng 1300 a 1400).
- Trigolion gyda symptomau: Ewch i Ganolfan Fusnes Conwy, Ffordd y Gyffordd, Cyffordd Llandudno, LL31 9XX ar gyfer prawf PCR. Canolfan galw i mewn/profi drwy ffenestr y car yw hon, ac nid oes angen gwneud apwyntiad. Mae’r ganolfan ar agor rhwng 0800 a 2000 (mae ar gau rhwng 1300 a 1400).