Mae Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders AS, wedi annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i ystyried ailagor yr Uned Gofal Symudol yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno, yn dilyn y datgeliad na welwyd unrhyw gleifion yn y ganolfan yn 2021. Daeth y cadarnhad drwy ymateb Rhyddid Gwybodaeth.
Mae Uned Gofal Symudol yn wasanaeth sy'n cynnig gofal yr un dydd i gleifion yn yr ysbyty. Mae hyn yn golygu bod cleifion yn cael asesiad, diagnosis a thriniaeth, a'u bod yn gallu mynd adref yr un diwrnod, heb gael eu derbyn i'r ysbyty dros nos. Ym mis Awst, dangosodd ystadegau ffigurau aros mai Betsi Cadwaladr oedd y Bwrdd Iechyd sy'n perfformio waethaf yng Nghymru gyda dim ond 64.9% o gleifion yn cael eu gweld o fewn y targed o 4 awr.
Gan danlinellu'r angen i fynd i'r afael â rhestrau aros, dywedodd Janet:
“Mae'n destun pryder mawr i mi fy mod wedi derbyn cadarnhad nad oes unrhyw gleifion wedi cael eu gweld yn yr Uned Gofal Symudol yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno, er gwaethaf hen bryderon bod rhaid i gleifion aros amser hir i gael diagnosis a thriniaeth briodol. Mae parhau i weithredu fel hyn wrth i ni barhau gyda'n hadferiad yn dilyn Covid-19 yn amlwg yn anymarferol.
“Er fy mod yn cydnabod yn llwyr fod y pandemig wedi golygu adleoli staff i wasanaethau hanfodol, yn ogystal â chau wardiau penodol i sicrhau iechyd a diogelwch cleifion a staff, wrth i wasanaethau iechyd rheng flaen eraill ailsefydlu, mae'n rhaid cynnal adolygiad brys o'r Uned Gofal Symudol fel y gellir adfer ei gynnig unigryw.
“Mae cynllun Llywodraeth Cymru i gefnogi'r GIG y gaeaf hwn yr un fath â'r olaf sydd wedi ein harwain at y sefyllfa lle'r ydym yn profi'r amseroedd aros gwaethaf ar gofnod yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys a'r ôl-groniad hiraf erioed am driniaeth. Gan fod Betsi Cadwaladr wedi wynebu problemau di-ri, dylai nawr geisio adeiladu ar y cynllun hwn drwy geisio ailagor Uned a allai helpu i fynd i'r afael â’r broblem rhestrau aros yn y tymor byr.”
Cyn bo hir, bydd yr Aelod yn lansio arolwg iechyd digidol i adolygu'r hyn sy'n peri pryder i etholwyr a gweithwyr rheng flaen lleol er mwyn helpu i dargedu ei chyfraniadau yn y Senedd yn y dyfodol.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS/MS