Mae Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid ac Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi nodi dechrau Cynhadledd Newid Hinsawdd COP26 y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow drwy arwyddo Addewid Diogelu Parciau Fields in Trust.
Mae’r Addewid yn nodi sut y gall cynrychiolwyr etholedig weithio i hyrwyddo, cefnogi a diogelu gofodau gwyrdd yn lleol ac yn genedlaethol. Yn ôl ymchwil ddiweddar gan Fields in Trust, mae’r gwerth lles sy’n gysylltiedig â’r defnydd cyson o barciau lleol a gofodau gwyrdd werth £34.2 biliwn y flwyddyn i boblogaeth oedolion gyfan y DU.
Wrth wneud sylw ar arwyddo’r Addewid, dywedodd Janet:
“Gyda cholledion bioamrywiaeth yn digwydd yn arswydus o gyflym, a Newid Hinsawdd yn effeithio ar ein cartrefi a’n cymunedau lleol, rwy’n falch iawn o ddechrau fy ngweithgareddau COP26 drwy arwyddo’r Addewid Diogelu Parciau i hyrwyddo ac eirioli dros amddiffyn mannau gwyrdd ym Mae Caerdydd.
“Wrth symud ymlaen, rwy’n awyddus i bwysleisio bod yr angen i ddiogelu’r gofodau hyn yn mynd y tu hwnt i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur. Yn ôl ymchwil gan Fields in Trust, amcangyfrifir bod parciau a mannau gwyrdd yn arbed oddeutu £111 miliwn y flwyddyn i’r GIG ar sail gostyngiad mewn ymweliadau â meddygfeydd teulu yn unig.
“Dyna pam fy mod wedi galw ar Lywodraeth Cymru yn y gorffennol i gynyddu’r defnydd o ragnodi mannau gwyrdd, gan fod yr awyr agored yn iachawr naturiol amlwg. Yn y pen draw, mae hyn hefyd yn golygu y dylid ond ystyried cael gwared ar barciau neu ofod gwyrdd fel cam i’r cyfeiriad anghywir a byddai’n debygol o gostio mwy o arian na’r hyn a fyddai’n ei arbed.
“Wrth ysgwyddo rôl arweinyddiaeth fyd-eang yn Glasgow, ac ar ôl cyhoeddi Strategaeth Sero-Net sydd ymysg y gorau yn y byd, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi mesurau diogelu gofodau gwyrdd ar frig ei hagenda. Bellach, mae’n amser i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’i bwlch llywodraethu ei hun a phennu targedau bioamrywiaeth fel ffordd o ddiogelu a hyrwyddo ein parciau a’n mannau gwyrdd lleol.
DIWEDD
Ffoto: Janet Finch-Saunders AS