Mae swyddogion y llywodraeth wedi cadarnhau wrth y North Wales Pioneer y bydd y gwaith o ddychwelyd tywod i Draeth y Gogledd yn cychwyn fis Mawrth nesaf. Fel rhan o'r cynllun, bydd cerrig yn cael eu symud a thywod a chrwynau pren yn cael eu hailgyflwyno er mwyn torri'r tonnau fel amddiffynfa rhag llifogydd. Ar ôl ymgyrchu ar y cyd â'r gymuned i sicrhau bod tywod yn dychwelyd i'r traeth hanesyddol hwn, mae'r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi croesawu'r newyddion, gan ddweud:
“Yn anffodus, mae coron Brenhines Cyrchfannau Gwyliau Cymru wedi colli rhywfaint o'i sglein dros y saith mlynedd diwethaf, ers i gerrig chwarel gael eu dympio'n ddiseremoni ar ein glan môr hyfryd a hanesyddol. Dyna pam dw i wrth fy modd bod rhanddeiliaid wedi ymateb mor dda i'n hymgyrch gymunedol i weld y tywod yn dychwelyd yma.
“Gwyddom fod sawl unigolyn wedi cael codwm a brifo wrth groesi'r clogfeini i gyrraedd y dŵr, a bod eraill wedi'u hatal rhag cyrraedd y môr oherwydd y rhwystr annaturiol. Felly mae'r bwriad i ddileu'r rhwystrau hyn, yn ogystal â'r newyddion am dywod yn dychwelyd, wedi cael croeso brwd iawn gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
“Mae cael amserlen benodol, sef mis Mawrth 2022, ar gyfer dychwelyd y tywod yn golygu y gallwn ddechrau rhoi cyhoeddusrwydd balch i'r ffaith bod harddwch a diogelwch yn dychwelyd i'r gyrchfan hollbwysig hon i weddill Cymru. Bydd y cam hwn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar dwristiaeth, heb os nac oni bai.
“Wrth gwrs, rwy'n barod i gynorthwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a'u swyddogion drwy broses arfarnu Llywodraeth Cymru er mwyn cadw at ddyddiad cyflawni'r gwaith."
DIWEDD