At an open day at Cae Derw Park in Llandudno Junction, on Thursday 18/08/2022, Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, paid tribute to the new friends group who are proactively working hard to see further enhancements to this play area.
Janet Said:
“Today has been a huge success for Anne Evans and her team of trustees / volunteers who have organised the event that saw a large number of stands, such as Cartrefi Conwy, Warm Homes Wales, the Citizens Advice Bureau and other stalls. It was lovely to see so many children and families have a super time.
“Under the stewardship of Anne Evans and her fabulous team I have no doubts that they will be able to achieve greater enhancements to this park and I look forward to working with them going forward to see the scheme come to fruition.
“I was very heartened to learn that Anne is raising funds to have a local heart screening unit available, and I will be working along Anne and the group to see those aims fulfilled also.
“Any volunteers would be welcomed to join this group. If you would like to help in any way, please contact me and I will be happy to share your details with the group.”
ENDS/
Photo: Janet Finch-Saunders MS & Friends of Cae Derw Park
Diwrnod agored parc grŵp ffrindiau yn llwyddiant ysgubol
Mewn diwrnod agored ym Mharc Cae Derw, Cyffordd Llandudno, ddydd Iau 18/08/2022, fe wnaeth Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy, roi teyrnged i'r grŵp cyfeillion newydd sy'n gweithio'n galed i gyflwyno gwelliannau pellach i'r maes chwarae hwn.
Meddai Janet:
“Roedd heddiw'n llwyddiant ysgubol i Anne Evans a'i thîm o ymddiriedolwyr / gwirfoddolwyr a drefnodd y digwyddiad oedd yn cynnwys llu o stondinau, fel Cartrefi Conwy, Cartrefi Clyd Cymru, Cyngor ar Bopeth a stondinau eraill. Roedd hi'n hyfryd gweld cymaint o blant a theuluoedd yn cael amser braf.
“O dan stiwardiaeth Anne Evans a'i thîm gwych does gen i ddim amheuon y byddan nhw'n gallu cyflwyno mwy o welliannau i'r parc hwn ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw wrth i'r cynllun ddwyn ffrwyth.
“Roedd yn galondid mawr i mi ddysgu bod Anne yn codi arian ar gyfer uned sgrinio calon leol, a byddaf yn gweithio ar y cyd ag Anne a'r grŵp i gyrraedd y nod hwnnw hefyd.
“Mae croeso cynnes i unrhyw wirfoddolwyr ymuno â'r grŵp yma. Os ydych chi am helpu mewn unrhyw fodd, cysylltwch â mi a byddaf yn hapus i rannu'ch manylion gyda'r grŵp.”
DIWEDD/
Llun: Janet Finch-Saunders AS a Ffrindiau Parc Cae Derw