Yn dilyn pryderon a godwyd yr wythnos diwethaf am lefelau presenoldeb staff yn swyddfa Cyffordd Llandudno Llywodraeth Cymru, gydag ateb Rhyddid Gwybodaeth yn datgelu mai dim ond 18 o bobl y cofnodir eu bod wedi gweithio ar y safle bob dydd yn ystod mis Medi 2021, mae’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders AS, wedi annog y Prif Weinidog i gynnal adolygiad ynghylch a ellid trosi'r lle'n rhannol i fod yn ganolfan gweithio hyblyg i entrepreneuriaid yng Ngogledd Cymru. Yn ei ateb, roedd yn ymddangos bod Mr Mark Drakeford yn cefnogi cynnal adolygiad o'r fath.
Wrth siarad am ei hawgrym adeiladol, dywedodd Janet:
“Er bod Polisi 30 Cyllideb Carbon Sero-Net Cymru 2 yn ailadrodd uchelgais hirdymor Llywodraeth Cymru i alluogi tua 30% o weithwyr Cymru i weithio o bell y tu hwnt i Covid-19, gyda £500,000 yn cael ei fuddsoddi mewn chwe safle gweithio hyblyg mewn lleoliadau yn y Cymoedd, roeddwn yn bryderus iawn mai ychydig iawn o ddarpariaeth sydd wedi'i chynnig yn gyhoeddus ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru.
“Mewn ymateb Rhyddid Gwybodaeth diweddar, nododd Llywodraeth Cymru, er bod gan ychydig dros 390 o bobl gontract i weithio yn Swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno ar hyn o bryd, y lefel presenoldeb dyddiol cyfartalog ar gyfer mis Medi a gofnodwyd oedd 18 o bobl.
“Gyda dymuniad i weld arian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio'n ddoeth, ac wrth gydnabod bod tua £23 miliwn wedi'i wario ar adeilad Cyffordd Llandudno yn y lle cyntaf, rwyf wedi annog y Prif Weinidog yn adeiladol i gynnal adolygiad i weld a ellid trosi'r adeilad hwn yn rhannol yn hwb gweithio hyblyg i fusnesau bach ac entrepreneuriaid yng Ngogledd Cymru. Roeddwn wrth fy modd bod y syniad wedi cael croeso cynnes.”
Y llynedd, datgelodd Janet fod tua £916,000 wedi'i wario ar waith cynnal a chadw ac atgyweirio ar gyfer y swyddfa, rhwng 2017 a 2020. Mae'r rhan fwyaf o'r arian a wariwyd ers blwyddyn ariannol 2017/2018 wedi bod ar waith atgyweirio ac adnewyddu, sef cyfanswm o tua £543,000.
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS/MS