Mewn cwestiwn i’r Cwnsler Cyffredinol ynghylch y cysylltiad awyrennau rhwng Ynys Môn a Chaerdydd, mae Janet Finch-Saunders AS, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi erfyn am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch a oes cyngor cyfreithiol wedi’i dderbyn i derfynu neu ddiwygio’r contract
Mae’r contract presennol yn dod i ben ar 17 Chwefror 2023 gyda gwerth uchaf o £8,529,282. Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y tendr yn seiliedig ar ddarparu 10 hediad yn ô ac ymlaen bob wythnos a bod y costau terfynol yn cael eu pennu gan nifer o ffactorau amrywiol.”
Cyhoeddwyd y cysylltiad awyrennau rhwng Caerdydd ac Ynys Môn yn ôl yn 2007. Fodd bynnag, daeth gwasanaethau rhwng meysydd awyr Caerdydd a’r Fali i ben ym mis Mawrth 2020 wrth i’r pandemig effeithio ar y sector awyrennau.
Wrth roi sylwadau ar ôl gofyn ei chwestiwn, dywedodd Janet:
“Dyw’r hediadau rhwng Ynys Môn a Chaerdydd heb adael y ddaear ers bron i ddwy flynedd bellach. Ond eto, datgelwyd fis yn ôl bod Llywodraeth Cymru wedi talu dros £750,000 mewn cymorthdaliadau yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
“Mae’n ymddangos yn amlwg bod y “ffactorau amrywiol” a grybwyllwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru wedi golygu bod Eastern Airways wedi derbyn dros dri chwarter miliwn o bunnoedd o arian trethdalwyr heb ddarparu unrhyw wasanaeth yn 2020/21. Mae’r llwybr hedfan wedi dod yn gur pen ariannol mawr ac mae angen adolygu’r sefyllfa.
“Mae preswylwyr angen eglurder ar unwaith ynghylch pam y bydd rhagor o arian yn cael ei wastraffu ar gysylltiad awyren sydd heb adael y ddaear. Gyda hyn mewn golwg, rwyf wedi erfyn ar y Cwnsler Cyffredinol i egluro i’r Senedd pa gyngor cyfreithiol sydd wedi’i geisio i derfynu neu ddiwygio’r contract cyn iddo ddirwyn i ben yn 2023.”
DIWEDD
Llun: gan William Hook ar Unsplash