Dros y penwythnos, fe wnaeth Storm Arwen greu llanast ledled Cymru – collodd 30,000 o gartrefi eu trydan, gohiriodd Trafnidiaeth Cymru y rhan fwyaf o’i wasanaethau rheilffyrdd a difrodwyd adeilad achub anifeiliaid yn ddrwg.
Mewn cais am ddatganiad i Lywodraeth Cymru heddiw, mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid - wedi galw am esboniad ynghylch y cydweithio sy’n digwydd gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod paratoadau hollbwysig yn cael eu gwneud i sicrhau bod cymunedau’n gallu gwrthsefyll stormydd.
Gan bwysleisio’r angen am ddatganiad, dywedodd Janet:
“Yn Llandudno, yn anffodus mi ddinistriodd Storm Arwen ffenestr eglwys a chwympodd sawl coeden. Yn y Gogledd yn fwy eang, rydym hefyd yn gwybod bod ITV wedi gorfod canslo penodau’r penwythnos o I’m A Celebrity…. Get Me Out Of Here! o Gastell Gwrych.
“Gyda chyflymder gwynt o 81 milltir yr awr yn cael ei gofnodi yn Aberporth, roedd yn ein hatgoffa eto fyth o rym natur. Hoffwn dalu teyrnged i’n hawdurdodau lleol a’r swyddogion hynny a ymatebodd mor ddiflino i alwadau yn sgil difrod y storm.
“Dyna pam fy mod wedi galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud datganiad ar y mesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gennym gymunedau sy’n gallu gwrthsefyll stormydd yn well.”
DIWEDD
Ffotograff: gan Steven Erixon ar Unsplash