Wrth ofyn i'r Prif Weinidog wneud datganiad ar effaith yr amrywiolyn Omicron o COVID-19 ar fusnesau lletygarwch yng Nghymru, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi annog Llywodraeth Cymru i adolygu a oes angen cylch arall o grantiau cymorth Covid-19 i fusnesau, o gofio'r cynnydd mewn canslo.
Wrth siarad am y pwnc ar ôl gofyn ei chwestiwn, dywedodd Janet:
“Gyda phryder cynyddol am effaith amrywiolyn Omicron, mae busnesau lletygarwch a thwristiaeth lleol yn sôn am don o bobl yn canslo archebion, a hynny mewn cyfnod y gwyddom sy’n gallu cynhyrchu hyd at 25% o'u trosiant blynyddol. Bydd hyn yn cael effaith ddinistriol ar hyfywedd a chyfleoedd cyflogaeth, gyda busnesau eisoes wedi mynd drwy gyfnod heriol mor hir.
“Rwy'n adnabod un entrepreneur lleol sydd wedi colli gwerth £25,000 o archebion, ac sy'n gorfod ystyried diswyddo 8 aelod o staff. Er bod busnesau'n dal i aros am fynediad i'r gronfa a addawyd sydd wedi’i chynllunio i helpu busnesau bach a chanolig i ail-lansio a datblygu, mae'r straen economaidd real a sydyn iawn yn sgil Omicron yn golygu y dylai Llywodraeth Cymru adolygu sut y gall fynd gam ymhellach.
“Dyma pam rwyf wedi gofyn i'r Prif Weinidog adolygu a oes angen cylch arall o grantiau cymorth busnes Covid-19. Gydol y pandemig, mae cymorth busnes wedi bod yn ormod o ôl-ystyriaeth yn rhy aml, felly mae angen eglurder rŵan ar sut y byddant yn cael cymorth i ddal ati drwy'r cyfnod hwn. Rwy'n falch bod y Prif Weinidog wedi gwrando ar fy ngalwadau heddiw ac y bydd yn ystyried rownd arall o gymorth ariannol."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS