Wrth gyflwyno cwestiwn i'r Prif Weinidog heddiw, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi annog Llywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad i reolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Yr wythnos diwethaf, datgelwyd bod meddygon sy'n gweithio mewn adrannau brys wedi ysgrifennu at benaethiaid byrddau iechyd gydag apêl daer, yn eu rhybuddio bod cleifion yn marw mewn ambiwlansys ac ystafelloedd aros oherwydd adrannau brys gorlawn.
Wrth ymhelaethu ar hyn, dywedodd Janet:
“Mae gen i bryderon difrifol a pharhaus am arweinyddiaeth y Bwrdd Iechyd yn y Gogledd. Yn ogystal â'r Prif Weithredwr, y Cadeirydd, yr Is-Gadeirydd a'r saith aelod annibynnol, mae tua 66 o Gyfarwyddwyr Gweithredol, Cyfarwyddwyr rhanbarthol, Penaethiaid ac Arweinwyr rhanbarthol.
“Mae'r llythyrau brawychus hyn gan weithwyr ar y rheng flaen, yn ogystal â'm sgyrsiau diweddar ag etholwyr a meddygon teulu, wedi datgelu bod y strwythur rheoli pendrwm hwn wedi methu â datrys patrymau ymddygiad sy'n llethu effeithlonrwydd.
“Gyda’r adroddiadau am ysbytai gorlawn a throsglwyddiadau ambiwlans araf, ynghyd â’r gorlwyth o ohebiaeth gwaith achos rwyf yn ei dderbyn gan bobl sy'n aros am driniaeth, mae'n amlwg ein bod angen ymchwiliad annibynnol i'r Bwrdd Iechyd er mwyn penderfynu a oedd eu tynnu allan o fesurau arbennig cyn etholiad yn benderfyniad cywir.”
DIWEDD