Wrth gyfrannu at drafodion yn y Siambr, mae Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd ac Aelod o'r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi gofyn am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru ar ddileu cladinau peryglus yng Nghymru.
Daw'r ymyriad yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Prydain a ddywedodd y byddai'n sicrhau £4 biliwn gan ddatblygwyr i drwsio cladinau peryglus ar adeiladau isel yn Lloegr. Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Codi'r Gwastad a Thai Michael Gove AS ysgrifennu at gwmnïau, gan roi tan fis Mawrth iddyn nhw gytuno ar gynllun i ddiogelu lesddeiliaid sydd wedi’u caethiwo gan gartrefi nad oes modd eu gwerthu, gan ddweud bod rhai cwmnïau wedi dangos arweiniad ac wedi talu costau tra bod eraill heb ysgwyddo eu cyfrifoldebau.
Cynhaliodd Celestia Action Group, perchnogion fflatiau Redrow ym Mae Caerdydd sy'n brwydro i gael y datblygwr i gywiro eu diffygion adeiladu difrifol, brotest y tu allan i'r Senedd dros y penwythnos, gan siarad wythnos diwethaf am y diffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru yn dilyn y datblygiad cadarnhaol yn Lloegr.
Wrth drafod ei chais i'r Trefnydd, dywedodd Janet:
“Dros bythefnos yn ôl, fe wnaeth y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS gymryd camau pendant i fynd i'r afael â'r argyfwng cladin drwy ysgrifennu at y Diwydiant Datblygwyr Eiddo Preswyl a'i gwneud yn glir nad yw'n deg nac yn weddus i lesddeiliaid diniwed orfod talu biliau na allant eu fforddio er mwyn datrys problemau nas achoswyd ganddyn nhw.
“Roedd y llythyr hwn yn gofyn i ddatblygwyr gytuno i wneud cyfraniadau ariannol i gronfa bwrpasol i dalu am yr holl gostau sy'n weddill i adfer sefyllfa cladin peryglus ar adeiladau 11 metr i 18 metr; a chyllido a gwneud yr holl waith adfer angenrheidiol ar adeiladau dros 11 metr y buon nhw'n rhan o'u datblygu.
“Yma yng Nghymru, fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn dal i osgoi ateb. Er bod y Gweinidog wedi cyhoeddi cronfa o arian i brynu'r fflatiau hyn oddi ar berchnogion sydd mewn trybini, mae'r trigolion yn awyddus iawn i gael eglurder ynghylch a fyddant yn ceisio cymryd yr un camau beiddgar â Michael Gove. Mae'n hanfodol bod y datganiad hwn ar y gweill cyn gynted â phosibl.”
DIWEDD
Llun: gan Scott Webb ar Unsplash