Gan gyfrannu at ddadl yn y Senedd ar ddeiseb i gyflwyno cyfreithiau newydd i ddiogelu gwiwerod coch rhag colli eu cynefinoedd, mae Janet Finch-Saunders AS - yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi galw am adolygiad gan y Senedd i ofynion trwyddedau cwympo coed fel bod “ystyriaeth deg yn cael ei rhoi i fioamrywiaeth a cholli cynefin.”
Yn ôl yr adroddiad Cyflwr Mamaliaid yng Nghymru, er bod dirywiad amlwg wedi bod yn nosbarthiad wiwerod coch ers 1995, ymddengys bod y boblogaeth yng Nghymru ar hyn o bryd yn sefydlog. Fodd bynnag, defnyddiodd Mrs Finch-Saunders ei chyfraniad i bwysleisio nad yw’r rhagolygon yn dda, gyda’r boblogaeth o 9,200 yn gostwng ar hyn o bryd.
Gellir canfod wiwerod coch mewn pedair ardal unigryw yng Nghymru: o boptu’r Fenai; rhwng Powys a Cheredigion, ac yng Nghoedwig Clocaenog. Yn sgil hynny, mae Janet hefyd wedi defnyddio ei chyfraniad i alw am gynllun gweithredu i weld y rhywogaeth yn dychwelyd i Aberconwy.
Gan roi ei sylwadau y tu allan i’r Siambr, dywedodd Janet:
“Mae etholwyr yn Nyffryn Conwy yn cofio gweld wiwerod coch yno ddegawdau yn ôl. Heddiw, byddai’n rhaid iddyn nhw deithio dros 20 milltir i weld un yn y gwyllt. Oni fyddai’n braf pe bai Llywodraeth Cymru yn gallu datblygu cynllun gweithredu i gysylltu’r poblogaethau rhwng Clocaenog a’r Fenai?
“Wrth gynorthwyo i adfer rhywogaethau yn fwy cyffredinol, mae Cynllun Cadwraeth Wiwerod Coch Cymru yn nodi bod angen i gamau cadwraeth i ddiogelu wiwerod coch ar safleoedd mewndirol ganolbwyntio ar sicrhau bod cynefin addas ar gael.
“Fodd bynnag, dair blynedd ers cydnabod bod y system cynllunio coedwigoedd yn gyfyngiad, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i rwystro cynnydd. Mae’n rhaid i’r sefydliad egluro pam nad yw wedi gwario ceiniog ar fonitro wiwerod coch ers 10 mlynedd.
“Gellid sicrhau cynnydd pe bai adolygiad dan arweiniad y Senedd yn cael ei gynnal i ofynion trwyddedau cwympo coed, er mwyn sicrhau bod ystyriaeth deg yn cael ei rhoi i fioamrywiaeth a cholli cynefinoedd. Rwy’n gobeithio y byddai hyn hefyd yn cywiro’r ffaith nad oes asesiadau blynyddol ar gwympo coed ar gyfer y rhywogaeth hon yn cael eu cynnal yn achos coedwigoedd dan berchnogaeth y wladwriaeth.”
DIWEDD
Ffotograff: gan Pearse O'Halloran ar Unsplash