Wrth siarad yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig ar wasanaethau iechyd meddwl, a chyn diwrnod iechyd meddwl y byd, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi cynllun gweithlu iechyd meddwl clir a strategaeth argyfwng tymor byr ar waith.
Yn siarad ar ôl ei chyfraniad, dywedodd Janet:
“Gyda nifer cynyddol o etholwyr yn mynegi pryderon am fynediad at gymorth iechyd meddwl yn lleol, rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi cynllun gweithlu iechyd meddwl clir ar waith. O ystyried maint o broblem, dylem hefyd weld strategaeth argyfwng tymor byr ar waith.
“Yn y dyfodol, dylem gael adroddiadau blynyddol i roi darlun gonest o ddifrifoldeb y sefyllfa ar lawr gwlad, a helpu’r Senedd i ddeall pa gamau sydd eu hangen i gefnogi gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol i gynorthwyo ein cymunedau.
“Dylai polisi gael ei lywio gan ddata, tystiolaeth a thystlythyrau bob amser. Yn y Gogledd, lle mae’r ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau i oedolion yn anghyson, byddai’r broses newydd a thryloyw hon yn mynd â ni gam yn nes at gyflawni’r heriau.”
Gofynnodd Mrs Finch-Saunders hefyd i Lywodraeth Cymru wella’r broses o gyfeirio a darparu cymorth iechyd meddwl arbenigol i deuluoedd sy’n delio gyda cholled. Mae hyn yn dod wrth i ystadegau ddangos bod nifer y bobl ifanc sy’n mynd i’r ysbyty gyda phroblemau hunan-niweidio wedi codi 39% ers 2007.
Yn rhoi sylwadau, dywedodd Janet:
“Mae’n dorcalonnus gweld cynnydd o 40% yn y bobl ifanc sy’n dod i’r ysbyty ar ôl hunan-niweidio ac mae’r raddfa hunanladdiadau yn bryderus o uchel o hyd. Mae’n anghywir mai’r unig gyswllt swyddogol y mae rhai teuluoedd yn ei gael yw Heddweision yn eu hysbysu o golled drasig.
“Mae’r rhai sydd wedi colli rhywun i hunanladdiad yn dod yn grŵp mewn perygl ac maent angen cymorth ymarferol arbenigol, nid dim ond yn syth ar ôl i’r peth ddigwydd. Dyma pam y dylai Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r bylchau mewn gwasanaethau a gweithio ar fonitro’r gwasanaethau sydd ar gael.”
DIWEDD
Ffoto: gan Jeremy Perkins ar Unsplash