Mae Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi ategu galwadau i Lywodraeth Cymru sefydlu Cronfa Iawndal am Ganslo ar gyfer busnesau lletygarwch a thwristiaeth yng Nghymru, cyn yr adolygiad ar gyfyngiadau Coronafeirws a gynhelir ddydd Gwener.
Yn gynharach yr wythnos hon, wrth ateb cwestiwn Janet ar y mater, rhoddodd y Prif Weinidog sicrwydd y bydd y weinyddiaeth yn “ystyried yr hyn y gallem ei wneud o'n hadnoddau ein hunain.” Mae nifer cynyddol o bobl yn canslo archebion mewn llawer o dai bwyta, caffis a busnesau llety wrth i’r wlad gyflymu ei hymdrechion i frwydro amrywiad omicron newydd o coronafeirws.
Daw’r ymyriad wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn £135 miliwn arall i helpu gyda’r gwaith brechu a’r ymateb ehangach i Covid-19. Mae hwn yn swm ychwanegol sydd wedi’i gadarnhau ar ben y cyllid a bennwyd yng Nghyllideb Hydref 2021, a oedd yn ymwneud â’r pwysau ar iechyd a Chyllid Cymorth Ychwanegol Covid-19.
Wrth siarad am argyfwng canslo'r diwydiant lletygarwch, dywedodd Janet:
“Gan fod llawer o bobl yn canslo a hynny’n parhau i gael effaith andwyol ar hyfywedd ein sectorau lletygarwch a thwristiaeth hanfodol gydol cyfnod y Nadolig, y gwyddom sy’n gallu cyfrif am hyd at 25% o’u trosiant blynyddol, mae gan Lywodraeth Cymru’r grym a’r arian i sicrhau bod ein busnesau’n cael eu cefnogi’n llawn drwy Gronfa Iawndal am Ganslo bwrpasol.
“O gofio bod Llywodraeth Cymru eisoes yn eistedd ar £500 miliwn o gymorth Covid a newydd dderbyn hwb cyllid pellach gan Lywodraeth y DU i helpu i weithredu ei rhaglen frechu a’r ymateb ehangach angenrheidiol i’r pandemig, mae’n rhaid darparu eglurder i’n busnesau a’n hentrepreneuriaid cyn cyflwyno unrhyw gyfyngiadau.
“Gydol y pandemig, mae cymorth i fusnesau wedi bod yn ôl-ystyriaeth i Weinidogion ym Mae Caerdydd yn rhy aml. Gyda’r Prif Weinidog yn ymddangos fel pe bai’n barod i dderbyn y syniad pan ofynnais iddo ddydd Mawrth, ac ymddygiad defnyddwyr eisoes yn newid o ganlyniad i rethreg gofalus, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n camu i mewn ac yn achub y diwydiant.”
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS