Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi croesawu'r newyddion bod oes silff Cig Oen Cymru sydd â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) wedi gwella 10% yn ystod 2020-21, i 36.5 diwrnod ar gyfartaledd. Seland Newydd yw'r safon fyd-eang o hyd, oherwydd bod gan gig oen y wlad honno oes silff o dros 60 niwrnod ar gyfer cig oen sydd wedi'i becynnu dan wactod a hyd at 110 diwrnod ar gyfer cig oen sydd wedi'i fflysio â nwy CO2.
I gefnogi ffermwyr lleol, mae Mrs Finch-Saunders wedi bod yn gefnogwr llafar ers tro byd dros gynyddu oes silff cig oen Cymru, gan ddadlau y bydd hyn yn sbardun allweddol i helpu’r cynnyrch i fod yn fwy cystadleuol yn y farchnad fanwerthu ddomestig ac wrth ddenu cwsmeriaid allforio newydd.
Wrth groesawu'r gwelliant, dywedodd Janet:
“Mae'r gwelliant diweddaraf hwn i oes silff cig oen yn dyst i waith caled unigolion ar draws y gadwyn gyflenwi, wrth iddyn nhw ddatblygu sgiliau newydd ac ysgogi newidiadau cadarnhaol sy'n sicrhau y gall y cynnyrch blasus, maethlon a hyblyg hwn barhau i fod yn gystadleuol yn rhyngwladol.
“Fel rydw i wedi bod yn falch o ddatgan yn glir ym Mae Caerdydd, mae gan y cynnyrch eiconig hwn o Gymru nodweddion arbennig na ellir eu hail-greu yn unman arall felly bydd galw mawr amdano mewn marchnadoedd newydd. Fel y bydd ffermwyr ledled Aberconwy yn tystio, mae cig oen Cymru hefyd yn gynnyrch eithriadol o gynaliadwy sydd â manteision hefyd o ran rheoli tir yn lleol.
“Mae llwyddo i sicrhau oes silff hir yn dibynnu ar gael arferion glân a hylan drwy'r holl gadwyn gyflenwi, yn ogystal â'r gallu i reoli tymheredd yn dda unwaith y bydd yr anifail wedi'i ladd. Byddaf yn mynd ati nawr i weithio er mwyn sicrhau bod cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer yr hyfforddiant angenrheidiol yn parhau.”
DIWEDD
Ffotograff: gan Jez Timms ar Unsplash