Wrth siarad cyn dathliadau’r Flwyddyn Newydd, mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi erfyn ar etholwyr i wneud cefnogi busnesau lleol yn adduned blwyddyn newydd.
Wrth wneud sylwadau ar ei dymuniad, dywedodd Janet:
“Mae’r ffordd y mae ein busnesau lleol wedi llwyddo i ymateb i her y pandemig yn brawf o’u cadernid, arloesedd a gobaith. Busnesau lleol bach yw asgwrn cefn ein cymunedau, a dylen fynd ati i gefnogi eu dyfodol.
“Mae gan Aberconwy gymysgedd rhagorol o fentrau, o ffermydd i gigyddion, gwinllannau i stondinau llysiau, siopau crefft i gaffis, bwytai i dafarndai, llety twristiaid a llawer mwy.
“Yn y flwyddyn newydd, byddaf yn parhau i wneud popeth o fewn fy ngallu i hybu busnesau fel nad yw ein hentrepreneuriaid rhagorol yn wynebu unrhyw gostau diangen sy’n eu dal yn ôl.
“Ond gyda’n gilydd, gallwn ddefnyddio grym ein punnoedd i brynu’n lleol, gan gefnogi swyddi rhanbarthol a diogelu’r cadwyni cyflenwi. Gobeithio bod etholwyr ledled Aberconwy yn rhannu’r un adduned bositif hon gyda mi. Blwyddyn Newydd Dda!”
DIWEDD