Janet Finch-Saunders MS has recently visited Honda Motors’ new location on Argyll Road following the branch celebrating its 10-year anniversary.
During her visit Janet met with Mr Dave Paveley and reviewed their range of new and used Kia and Honda models, including electric vehicles.
Commenting after her visit Janet said:
“It is fantastic to see this business reach such an impressive milestone of 10 years of trading, and it was fabulous to be shown around their new showroom. After the COVID-19 pandemic it is uplifting to see a local family business continuing to invest in Llandudno.
“This dealership has also recognised the changing demands of the market and I was delighted to see the range of electric vehicles offered. With Climate Change remaining high on the political agenda, individuals are increasingly considering their own environment impact and carbon footprint. Given this, I was pleased to see the numerous electric vehicles on offer at this location, providing residents with a viable alternative to petrol or diesel cars.
“I would like to extend my thanks to Dave Paveley and the entire team at Honda Motors Llandudno for the incredibly interesting and informative visit and I wish them all the very best for another 10 years of success.”
ENDS/
Photo: Janet Finch-Saunders MS & Mr Dave Paveley
Moduron Honda Llandudno yn adleoli ar ôl dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed
Yn ddiweddar, bu Janet Finch-Saunders AS yn lleoliad newydd Moduron Honda ar Heol Argyll wrth i’r gangen ddathlu ei phen-blwydd yn 10 oed.
Yn ystod ei hymweliad, cafodd Janet gyfarfod Mr Dave Paveley ac adolygu eu dewis eang o geir Kia a Honda newydd ac ail-law, gan gynnwys cerbydau trydan.
Gan roi ei sylwadau ar ôl ei hymweliad, dywedodd Janet:
“Mae’n wych gweld y busnes hwn yn cyrraedd carreg filltir mor drawiadol ar ôl masnachu am 10 mlynedd ac roedd hi’n hyfryd cael fy nhywys o gwmpas eu hystafell arddangos newydd. Ar ôl pandemig COVID-19, braf yw gweld busnes teuluol lleol yn parhau i fuddsoddi yn Llandudno.
“Mae’r ddelwriaeth hon hefyd wedi cydnabod gofynion newidiol y farchnad ac roeddwn i’n falch iawn o weld y dewis o gerbydau trydan. Gyda Newid Hinsawdd yn aros ar frig yr agenda wleidyddol, mae unigolion yn fwy ymwybodol o’u heffaith amgylcheddol a’u hôl-troed carbon. O ystyried hyn, roeddwn i’n falch o weld llawer o gerbydau trydan ar werth yn y lleoliad hwn, gan gynnig opsiwn arall dilys i geir petrol neu ddiesel.
“Hoffwn ddiolch i Dave Paveley a’r holl dîm yn Moduron Honda Llandudno am ymweliad diddorol a llawn gwybodaeth a dymuniadau gorau iddynt am 10 mlynedd lwyddiannus arall.”
DIWEDD/
Ffoto: Janet Finch-Saunders AS a Mr Dave Paveley