Gan gydnabod pryderon a godwyd gan drigolion ynghylch diffyg integreiddio'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus lleol, mae'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi defnyddio cyfraniad yn ystod dadl yn y Cyfarfod Llawn i dynnu sylw at ei chynllun pedwar pwynt arloesol a rhagweithiol i helpu i wella ansawdd a hyd a lled gwasanaethau yn y Gymru wledig.
Mae cynllun gweithredu pedwar pwynt Janet yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
- Wella darpariaeth safleoedd bws gwledig gan gydnabod pryderon ynghylch diffyg cyfleusterau sylfaenol, megis cysgodfannau, seddi a gwybodaeth am amserlenni.
- Cyflwyno gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol o Borthladd Caergybi a Maes Awyr Manceinion i Flaenau Ffestiniog i gefnogi cynnydd yn nifer yr ymweliadau â'r ardal ar drafnidiaeth gyhoeddus.
- Ehangu'r ardal a wasanaethir gan y gwasanaeth bws Fflecsi fel ffordd o gydnabod y budd y mae'n ei gael ar annog dull trafnidiaeth gwyrddach.
- Trefnu gwasanaethau gyda'r nos rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog, i gydnabod bod y trên olaf yn gadael am 16:17 a'r bws olaf am 18:34 ar hyn o bryd.
Daw ei hymyriad yn dilyn pryderon a godwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru sydd wedi amlinellu, oherwydd bod argaeledd a dibynadwyedd gwasanaethau bysiau yn wael yn aml, fod diffyg ymddiriedaeth o hyd mewn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Tynnodd Heléna Herklots CBE sylw hefyd at sut mae pobl hŷn yn dewis teithio i'w hapwyntiadau iechyd mewn cerbydau preifat, ar draul bersonol sylweddol.
Wrth sôn am ei chyfraniad, dywedodd Janet:
“Rwyf wedi siarad yn y Siambr yn y gorffennol am y broblem sydd gennym gyda'r bws olaf o Landudno i Ddyffryn Conwy yn gadael am 18:40pm, sy'n golygu nad oes modd cyrraedd y ddwy ardal ar drafnidiaeth gyhoeddus am weddill y nos.
“Ar ôl cysylltu â darparwyr gwasanaethau, mae hi bellach yn glir i mi fod diffyg archwaeth gan bobl i weithio shifftiau hwyr. Felly, mae angen cynllun gweithredu clir i gefnogi cwmnïau bysiau i wella atyniad y diwydiant ac annog staff i weithio shifftiau hwyrach.
“Gan adeiladu ar y gwaith angenrheidiol hwn, byddai fy nghynllun pedwar pwynt yn cefnogi cynnydd yn y galw drwy wella ansawdd a hyd a lled gwasanaethau. Fel rhan o'r gwaith hwn, rwyf wedi galw am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa fuddsoddiad a wneir i wella ein safleoedd bws lleol a gwledig.
“Ar hyn o bryd, mae anghydraddoldeb yn y ddarpariaeth gan fy mod i wedi gweld trigolion yn sefyll yn y glaw i ddal bws wrth ochr yr A470 ym Maenan, tra bod safle bws gyda sgrin ddigidol ymhellach i'r gogledd ym mhentref Glan Conwy!
“Mewn mannau eraill, mae fy nghynllun cynhyrchiol yn ceisio adeiladu ar y cynnydd sylweddol a wnaed o ran darparu trafnidiaeth gyhoeddus i ardal wledig Aberconwy diolch i'r gwasanaeth bws Fflecsi ac yn ceisio cyflwyno gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol newydd o Borthladd Caergybi a Maes Awyr Manceinion i Flaenau Ffestiniog.
“Mewn argyfwng hinsawdd, rwy'n glir bod angen i ni rymuso trigolion i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Byddai camau o'r fath yn galluogi Eryri i fod â phyrth trafnidiaeth gyhoeddus gwirioneddol ryngwladol, gan gysylltu un o ardaloedd mwyaf trawiadol cefn gwlad Cymru â gweddill y byd.”
DIWEDD
Llun: gan CHUTTERSNAP ar Unsplash