Gyda'r tywydd cynnes yn parhau, a chynnydd yn nifer y preswylwyr sy'n gwneud gweithgareddau dŵr, mae'r RNLI yn atgoffa pobl i arnofio i fyw os byddwch yn mynd i drafferthion ac i ffonio 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau mewn argyfwng. Adleisiwyd hyn Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy.
Mae 2.5 miliwn o bobl wedi marw trwy foddi ledled y byd yn ystod y degawd diwethaf ac roedd modd osgoi llawer o'r marwolaethau hynny. Dyma’r tro cyntaf i'r RNLI nodi Diwrnod Rhyngwladol Atal Boddi – menter sy'n cael ei defnyddio i gynyddu gwybodaeth am gyngor ar ddiogelwch arfordirol. Mae’r Diwrnod hwn yn dilyn penderfyniad y Cenhedloedd Unedig ar atal boddi a fabwysiadwyd yn ddiweddar, gan gydnabod y broblem am y tro hanes yn ei hanes 75 mlwydd oed.
Mae cyngor yr RNLI ar ddiogelwch traethau yn cynnwys:
- Cofiwch wirio rhagolygon y tywydd, amseroedd y llanw, a darllen arwyddion peryglon lleol.
- Os byddwch yn syrthio i'r dŵr yn annisgwyl, ARNOFIWCH I FYW. Brwydrwch yn erbyn yr ysfa i sblashio o gwmpas, ac yn hytrach pwyswch yn ôl ar eich cefn, ymestyn eich breichiau a'ch coesau, ac arnofio.
- Mewn argyfwng ffoniwch 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau.
Gan bwysleisio'r angen i gadw'r cynghorion hyn mewn cof cyn ymweld ag ardaloedd arfordirol yr etholaeth, dywedodd Janet:
“Wrth i'r tywydd cynnes barhau, a thymor yr haf gyrraedd ei anterth, mae'n braf gweld cymaint o bobl yn heidio i'n harfordiroedd a'n llynnoedd godidog. Fodd bynnag, gyda'r RNLI yn dweud bod tua 650 o bobl yn boddi ledled y byd bob dydd, sy'n cyfateb yn fras i un farwolaeth bob 2 funud, mae'n hollbwysig bod pawb yn ymwybodol o'r cyngor diogelwch perthnasol.
“Dyma pam rwy'n manteisio ar y cyfle i bwysleisio'r angen i wella ein gwybodaeth am y cyngor diogelwch. Gyda hyn mewn cof, os byddwch chi'n disgyn i'r dŵr yn annisgwyl, gwrandewch ar ein sefydliad achub bywydau ac ARNOFIWCH I FYW drwy orwedd ar eich cefn ac ymestyn eich breichiau a'ch coesau.
“Hoffwn hefyd dalu teyrnged i ymroddiad a gwaith caled ein criwiau bad achub lleol a thimau Gwylwyr y Glannau. Byddwn bob amser yn ddyledus i'w cymorth yn ein cyfnod o angen. Er hynny, mae modd atal llawer o drafferthion dŵr ac felly rwy'n adleisio eu galwadau i ymwelwyr wirio rhagolygon y tywydd, amseroedd y llanw a darllen pob arwydd perygl i ddeall peryglon lleol.”
DIWEDD
Llun: gan conor rabbett ar Unsplash