Mae'r pencampwr lleol Mrs Val Conway wedi ennill Medal Ymerodraeth Prydain a chyflwynwyd y wobr iddi yn Taverners Court, Llandudno. Mynychwyd y seremoni gan deulu a ffrindiau Val, a phwysigion lleol gan gynnwys Mr Henry (Harry) George Fetherstonhaugh OBE DL, Arglwydd Raglaw Sir Clwyd; Janet Finch-Saunders AS; y Cynghorydd Harry Saville, Maer Llandudno; a'r Cynghorydd Philip C. Evans J.P.
Enwebwyd Val gan Aberconwy Physically Handicapped a Able Bodied Club (PHAB), a chefnogwyd yr enwebiad gan nifer yn y gymuned gan gynnwys yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy.
Wrth siarad ar ôl cyflwyno'r fedal, dywedodd Janet:
“Rwyf wrth fy modd bod cymaint ohonom wedi gallu dod at ein gilydd i ddathlu'r ffaith bod cyfraniad amhrisiadwy Val i'n cymdeithas wedi cael ei gydnabod mewn ffordd mor wych.
“Rwy’n nabod Val ers blynyddoedd, a bob amser wedi edmygu ei hegni, ei brwdfrydedd a'i hymroddiad i godi arian i bobl sy'n llawer llai ffodus na ni ein hunain.
“Mae hi wedi cefnogi PHAB ers dros 35 mlynedd, wedi helpu elusen sy'n rhoi cymorth i ddioddefwyr spina bifida a hydroceffalws, ac wedi dechrau'r Daith Gerdded Susie Sunshine flynyddol ar hyd y Prom.
“Alla’i ddim meddwl am neb mwy haeddiannol a theilwng i dderbyn y fedal hon”.
Adleisiwyd yr edmygedd lleol gan y Cynghorydd Harry Saville, Maer Llandudno, a ychwanegodd:
“Mae cyfraniad Val at achosion elusennol yn lleol yn adnabyddus ac rwy'n falch iawn ei bod wedi cael ei chydnabod gyda BEM. Mae'n bleser gen i longyfarch Val ar ran Cyngor Tref Llandudno.”