Mae Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy - Janet Finch-Saunders AS - wedi croesawu’r newyddion bod newidiadau allweddol wedi’u gwneud i fferm wynt ar y môr arfaethedig oddi ar arfordir Llandudno ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus. Byddai Awel y Môr wedi’i lleoli tua 10.5km oddi ar arfordir Llandudno i’r gorllewin o Fferm Wynt gyfredol Gwynt y Môr,
Yn dilyn pryderon a godwyd yn ystod ymgynghoriad diweddar am effaith weledol y fferm wynt, mae datganiad gan y datblygwyr yn nodi’n glir bod yr ardal aráe ar y môr wedi’i lleihau ar yr ochr orllewinol, gan arwain at leihad o 26% o gynllun y prosiect gwreiddiol yn 2020. Yn ogystal â hyn, mae uchafswm y tyrbinau y gellir eu hadeiladu wedi’i leihau’n sylweddol o 91 i rhwng 35-50.
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Janet:
“Rwy’n croesawu’r newyddion bod y cynlluniau ar gyfer y cynllun hwn yn mynd i gael eu lleihau. Mae’n gam cadarnhaol i’r cyfeiriad cywir gan ei fod yn cydnabod pryderon amrywiol etholwyr a busnesau lleol ynghylch effaith ganlyniadol bosibl y prosiect hirsefydlog hwn.
“Ar ôl cyfarfod y datblygwyr a rhanddeiliaid eraill, roedd hi’n amlwg y byddai’r cynigion cychwynnol wedi newid golygfa fyd-enwog Brenhines Trefi Gwyliau Glan y Môr Cymru, a chael effaith bosibl ar fywyd yr adar a’r bywyd morol. Mynegais bryderon hefyd am yr olygfa yn y nos.
“Hoffwn ddiolch o galon i’r holl drigolion a busnesau lleol a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad diweddar ar gynllun Awel y Môr. O ystyried bod yr ymgynghoriad wedi gorfod newid i fod ar-lein a thu allan yn bennaf yn sgil Covid-19 rwy’n falch o weld bod y sylwadau a gyflwynwyd wedi cael effaith.
“Byddaf yn parhau i gadw golwg gofalus ar y sefyllfa leol gan barhau i alw ar Lywodraeth Cymru i adolygu pa fesurau diogelwch y gallai eu hystyried ar gyfer cymunedau glan môr y mae eu gorwel arfordirol yn brif atyniad i ymwelwyr.
DIWEDD
Llun: gan Brady Bellini ar Unsplash