Mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi siarad am ei llawenydd bod Ysbyty Llandudno wedi mabwysiadu menter y gaeaf er mwyn helpu i ysgafnhau’r pwysau ar welyau mewn safleoedd eraill.
Daw’r datblygiad positif hwn yn dilyn cadwyn o gamau gan yr Aelod dros Aberconwy sydd wedi bod yn gweithio i weld gwasanaethau yn cael eu cynnal a’u hadfer yn Ysbyty Llandudno. Mae ei chamau yn cynnwys:
- Arwain galwadau i ailagor yr Uned Gofal Dydd ar ôl iddi ddarganfod nad oes unrhyw gleifion wedi bod yno yn 2021;
- Ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, yn gofyn am i’r Pwyllgor ystyried y posibilrwydd y gallai’r problemau difrifol a achosir gan oedi cyn gadael ysbyty yn y tri ysbyty cyffredinol dosbarth yn y Gogledd gael eu lliniaru rhywfaint o leiaf drwy weithredu polisi lle mae’r cleifion hynny sy’n ffit yn feddygol i fedru gadael yn cael eu trosglwyddo i ysbytai fel un Llandudno;
- Gofyn am gyfarfod Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno;
- Ysgrifennu erthygl yn North Wales Weekly News yr wythnos hon yn tynnu sylw at sut y gellid defnyddio ein hysbytai llai yn well.
Gan roi ei sylwadau ar gyhoeddiad y Bwrdd Iechyd, dywedodd Janet:
“Rwyf wrth fy modd bod synnwyr cyffredin wedi ennill y dydd, a bod y Bwrdd Iechyd o’r diwedd wedi gwrando ar fy ngalwadau i wrthdroi’r duedd i ganoli gwasanaethau yn y tri ysbyty cyffredinol dosbarth drwy greu ward bontio yma yn Llandudno.
“Fel y dywedais yn glir wrth y Senedd yr wythnos hon, gall ein hysbytai llai chwarae rôl bwysicach nag erioed yn ein gwasanaeth iechyd, a dylent allu gwneud hynny.
“Gydag Uned Mân Anafiadau Llandudno eisoes yn perfformio’n wych, mae’n amlwg bod gan yr ysbyty botensial gwych.
“Wrth symud ymlaen, rwy’n erfyn ar y Bwrdd Iechyd i adolygu a ellir creu wardiau pontio yn Abergele, Bae Colwyn, Dinbych, y Royal Alexandra, Rhuthun, Glannau Dyfrdwy, y Waun, Treffynnon, yr Wyddgrug, Pwllheli, Dolgellau, Stanley, Alltwen, Llangefni, Caernarfon a Thywyn ac i oriau agor yr Uned Fân Anafiadau yn Llandudno gael eu newid ar unwaith fel bod yr Uned ar agor 24/7.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion: